Ar ddiwedd mis Mawrth, ymddeolodd Dr John Thompson o Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (WNPU) ac mae’n briodol nid yn unig i gydnabod ei gyfraniad i Docsicoleg, ond hefyd i gydnabod cydweithiwr a ffrind arbennig. Byddwn yn gweld eisiau ei broffesiynoldeb a’i bersonoliaeth yn fawr o fewn AWTTC.
Mae gan Dr Thompson lygad naturiol am fanylion a deallusrwydd aruthrol, a fu’n sylfaen gadarn iddo drwy gydol ei ymarfer meddygol ac fel Cyfarwyddwr y WNPU, a oedd o fudd nid yn unig i lawer o gleifion, ond hefyd i staff y WNPU. Ar ôl cyrraedd o Southampton, bu’n helpu, ochr yn ochr â’r Athro Philip Routledge, i sefydlu’r Diploma Ôl-raddedig mewn Tocsicoleg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd; mae’r cwrs uchel ei fri yn parhau i gael ei gynnal heddiw ac mae’n un o’r ychydig rai o’i fath yn y byd.
Mae Dr Thompson wedi cyflwyno’n eang mewn cynadleddau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac wedi cefnogi addysg tocsicoleg drwy gydol ei yrfa. Mae hefyd wedi cyfrannu’n rhyngwladol mewn dirprwyaethau gwyddonol mewn gwahanol rannau o’r byd, gan orfod dangos doethineb a phroffesiynoldeb eithriadol o dda o bryd i’w gilydd, er mwyn peidio â sarhau’r wlad sy’n lletya.
Mae’n aelod gweithgar o Gymdeithas Tocsicoleg Prydain ac roedd yn Gadeirydd yr adran ‘Society’s Human Toxicology Special Interest’ am dros ddeng mlynedd. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Gwenwyndra y DU a threulio dau dymor ar y Pwyllgor Cynhyrchion Milfeddygol.
Un o brif ddiddordebau John yw hwylio - mae’n hwyliwr brwd ac abl iawn, a bydd ymddeol yn rhoi mwy o amser iddo fwynhau’r hobi hwn. Weithiau gall hwylio olygu llawer o waith atgyweirio a dim llawer o amser ar y dŵr. Fodd bynnag, y gobaith yw ar ôl ymddeol y bydd gan John fwy o amser i fwynhau anturiaethau ar y môr yn y DU a’r cyffiniau, a thu hwnt.
Mae’r WNPU yn eithriadol o ddiolchgar i Dr Thompson am ei holl gefnogaeth a’i waith caled dros y blynyddoedd ac yn dymuno’r gorau i Dr Thompson ar ei ymddeoliad haeddiannol iawn.