10 Gorffennaf 2024
Roedd yn ddiwrnod gwych o gydweithio a dysgu yn Niwrnod Diogelwch Meddyginiaethau blynyddol Canolfan Cerdyn Melyn Cymru.
Roedd y digwyddiad hefyd yn nodi 60 mlynedd ers derbyn y Cerdyn Melyn cyntaf ym 1964 yn dilyn trychineb thalidomid.
Ers hynny, mae dros filiwn o adroddiadau Cerdyn Melyn wedi’u cyflwyno, gan wneud meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn fwy diogel i gleifion.
Wedi’i gynnal ar y cyd â Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), mynychwyd y digwyddiad gan Swyddogion Diogelwch Meddyginiaethau, Hyrwyddwyr Cerdyn Melyn, fferyllwyr/nyrsys sydd â diddordeb mewn diogelwch meddyginiaethau, a chydweithwyr o’r MHRA a’r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS).
Bu Cyfarwyddwr Meddygol YCC Cymru, Dr Alison Thomas, yn croesawu’r gynulleidfa ac yn cyflwyno’r llu o siaradwyr diddorol.
I ddechrau’r diwrnod, cafwyd cyflwyniad egnïol gan Jamie Hayes, Cyfarwyddwr Canolfan Adnoddau Meddyginiaethau Cymru, o dan y teitl Presenoldeb, Dylanwad a Statws – Cael Effaith ar Ddiogelwch Meddyginiaethau.
Yr Athro James Coulson a roddodd y cyflwyniad nesaf ar Ffarmacoleg Fforensig fel ffynhonnell gwyliadwriaeth ffarmacolegol cyn i Anne Hinchliffe, Fferyllydd Cynllunio Wrth Gefn Cenedlaethol ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a Manon Owen, Fferyllydd Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, archwilio pwnc prinder meddyginiaethau.
Roedd hefyd yn bleser gennym groesawu Hannah Rees, Asesydd Arwyddion Cyswllt, Diogelwch a Gwyliadwriaeth o’r MHRA a roddodd ddiweddariad ar eu gwaith.
Yn ystod y dydd, cyhoeddwyd enillwyr ein cystadleuaeth poster a hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran ac i Alana Adams, Cadeirydd Grŵp Cynghori YCC Cymru, a gafodd y dasg anodd o feirniadu.
Yn ogystal ag edrych ar y posteri, cafodd y mynychwyr gyfle hefyd i ymweld â nifer o stondinau gwybodaeth, a gynhaliwyd gan: YCC Cymru, AWTTC, NPIS, Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS), Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd (YMYH) ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Nesaf bu Ann Slee, Cynghorydd Allanol i Raglen Trawsnewid Gwasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a James Goddard, arweinydd e-ragnodi Ysbyty DHCW, yn egluro’r system EPMA a beth mae’n ei olygu i gydweithwyr.
Yn olaf, bu Dr Laurence Gray, Ffarmacolegydd Clinigol Ymgynghorol yn BIPCAF, ynghyd ag Ella Edwards a Nathaniel Keymer, Arbenigwyr mewn Gwybodaeth am Wenwynau yn NPIS, yn datgelu rhai Tueddiadau Diogelwch Meddyginiaethau.
Myfyriodd Dr Alison Thomas ar y diwrnod wrth iddi wneud ei datganiad cloi a diolchodd i bawb am fynychu a chymryd rhan i wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol.