Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Arfer Gorau Hydref 2021 - fideos ar gael nawr

Cynhaliodd AWTTC ei ail Ddiwrnod Arfer Gorau rhithwir yn llwyddiannus ar 12 Hydref 2021.

Roedd hwn yn ddigwyddiad ar-lein a oedd yn canolbwyntio ar rannu rhywfaint o'r gwaith ardderchog i optimeiddio meddyginiaethau sy'n cael ei wneud yng Nghymru, a rhoddodd gyfle i'r rhai oedd yn bresennol ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt.

Rheoli Clefydau Cronig mewn Ymarfer Cyffredinol - Rôl y tîm fferylliaeth
Rachel Brace, Fferyllydd Practis ym Mhractis Teuluol Gorllewin y Fro

Mae Rachel yn disgrifio'r ffordd y mae ei phractis wedi newid sut mae'n rheoli clefyd cronig, gan gynnwys y practis cyfan. Roedd yn gofyn am newid meddylfryd yn sylweddol a pherchnogaeth tîm dan arweiniad da i sicrhau’r arbedion effeithlonrwydd mwyaf posibl. Mae'r fenter yn canolbwyntio ar adolygiad blynyddol o feddyginiaeth a sbardunwyd gan ddyddiad geni'r claf, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth helpu i leihau cymhlethdod y system rheoli clinigol. Y canlyniad yw darparu adolygiadau cleifion amserol, effeithlon, darbodus, holistaidd ac o ansawdd uchel gan ddefnyddio tîm cyfan y practis.

Mae’r fideo o’r cyflwyniad llawn isod (saesneg yn unig):

Dull mwy diogel o bresgripsiynu Sodiwm Valproate mewn Gofal Sylfaenol
Rory Wilkinson, Pennaeth Fferylliaeth, Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol (Canolog) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Rory yn sôn am sut y gwnaethant nodi bod anghysondebau parhaus gyda mesurau diogelwch sodiwm valproate o fewn gofal sylfaenol BIPBC a sut y gwnaethant ddatblygu rhaglen i geisio rheoli'r risgiau sy'n weddill. Mae cyflwyniad Rory yn cynnwys hanes valproate, yr archwiliad a ddatblygwyd ganddynt, eu strategaeth gyfathrebu ac addysg a'r heriau niferus sy'n gysylltiedig â'r fenter lwyddiannus hon.

Mae’r fideo o’r cyflwyniad llawn isod (saesneg yn unig):

Diwrnodau Arfer Gorau yn y Dyfodol...

Mae AWTTC yn bwriadu cynnal Diwrnod Arfer Gorau rhithwir arall yng Ngwanwyn 2022. Cadwch lygad ar ein gwefan a Twitter (@AWTTCcomms) am fwy o wybodaeth.

Dilynwch AWTTC: