Ar ôl bod yn gallu i gynnal Diwrnod Arfer Gorau yn 2020 oherwydd y COVID-19 pandemig, cynhaliodd AWTTC ei Diwrnod Ymarfer rhithwir Gorau cyntaf ar 13 Ebrill 2021. Roedd hwn yn ddigwyddiad ar-lein sy'n canolbwyntio ar rannu rhywfaint o'r gwaith Optimization meddyginiaethau rhagorol parhaus yn Cymru, a rhoddodd gyfle i'r mynychwyr ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt.
Gan nad oedd hi’n bosibl cynnal Diwrnod Arfer Gorau yn 2020 oherwydd pandemig COVID-19, cynhaliodd AWTTC ei Ddiwrnod Arfer Gorau rhithwir cyntaf ar 13 Ebrill 2021. Digwyddiad ar-lein oedd hwn yn canolbwyntio ar rannu peth o’r gwaith optimeiddio meddyginiaethau rhagorol sy’n digwydd yng Nghymru, ac yn rhoi’r cyfle i fynychwyr ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt.
Dad-labelu alergedd i benisilin
Rhoddwyd y cyflwyniad cyntaf gan Dr Laurence Gray, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Aciwt a Ffarmacoleg Glinigol a Thocsicoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro, ar ran y grŵp dad-labelu alergedd i benisilin (PADL). Roedd y sgwrs yn ymdrin â sut y caiff alergedd i gyffuriau yn aml ei ganfod, sut y gellir ymchwilio alergedd i benisilin, a sut y mae’r mwyafrif helaeth o alergeddau i benisilin cleifion yn rhai nas profwyd.
Rhoddodd Dr Gray hefyd drosolwg o ddatblygiad protocol lleol yn BIP Caerdydd a’r Fro ar gyfer dad-labelu alergedd i benisilin ac mae hwn ar gam cynllun peilot.
Isod fe welwch fideo o’r cyflwyniad llawn (Saesneg yn unig):
Rheoli meddyginiaethau mewn cartrefi gofal: Canolbwyntio ar Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIau)
Rhoddodd Alex Bamsey a Matthew Lawson, Fferyllwyr Clinigol Integredig yn BIP Bae Abertawe, gyflwyniad ar ran y tîm rheoli meddyginiaethau ar gyfer cartrefi gofal. Roedd eu cyflwyniad yn disgrifio sut y mae’r tîm wedi bod yn gweithio i ddod â gwasanaethau fferylliaeth yn agosach at breswylwyr cartrefi gofal a sut y mae gwelliannau i adolygiadau meddyginiaethau preswylwyr wedi gallu ysgogi gwelliannau yn unol â NPIau Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).
Isod fe welwch fideo o’r cyflwyniad llawn (Saesneg yn unig):
Diwrnodau Arfer Gorau yn y Dyfodol...
Mae’n fwriad gan AWTTC gynnal Diwrnod Arfer Gorau rhithiwr arall yn ystod tymor yr Hydref 2021. Cadwch lygad ar ein gwefan a’n cyfrif Twitter (@AWTTCcymraeg) i gael rhagor o wybodaeth.