Mae’r Athro Ceri Phillips wedi rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn dilyn ei benodi’n Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi’r Athro Iolo Doull yn Gadeirydd Dros Dro AWMSG hyd nes y gellir cynnal y broses penodiad cyhoeddus wedi etholiadau’r Senedd.
Cynhelir cyfarfod nesaf AWMSG ar ddydd Mawrth 20 Ebrill i ddechrau am 9.30am ac fe’i cadeirir gan yr Athro Doull.