Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad DPP Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol - Newcastle

Ar 2 a 3 Ebrill, mynychodd aelodau o staff o uned Gwenwynau Caerdydd ddigwyddiad DPP y Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol (NPIS) a gynhaliwyd gan Uned Gwenwynau Newcastle ym Mharc St James, i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu uned NPIS Newcastle. Mynychwyd y digwyddiad gan bob un o’r pedair uned NPIS yn ogystal â chydweithwyr o’r Ganolfan Gwybodaeth Gwenwynau Genedlaethol yn Nulyn, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU a Gwasanaeth Gwybodaeth Teratoleg y DU (UKTIS).

Roedd y digwyddiad yn cynnwys deuddydd o gyflwyniadau rhagorol yn ogystal â thrafodaeth ar achosion clinigol a phrosiectau ymchwil cyfredol NPIS. Roedd themâu'r cyflwyniad yn cynnwys cyflwyniad i weithrediad UKTIS, gwenwyneg bediatrig, cyffuriau hamdden, gwenwyndra methanol, alcoholau uwch, gwenwyndra asid valproig a thueddiadau mewn ymholiadau sodiwm nitraid.

Siaradodd un o'n gwyddonwyr, Nathaniel Keymer am alcoholau uwch a'u potensial i achosi gwenwyndra a thrafododd ein Cyfarwyddwr Dr Laurence Gray y tueddiadau mewn ymholiadau sodiwm nitraid i NPIS.

Bu'r digwyddiad yn llwyddiant mawr ac ysgogodd drafodaethau difyr a thrafodaethau bywiog, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio â chydweithwyr eraill o fewn yr NPIS ac ar draws sefydliadau eraill. Dathlwyd hanner can mlwyddiant gyda chinio nos a dathliad bendigedig – wedi’i drefnu’n wych ac wedi’i fwynhau gan bawb.

Diolchwn i’r trefnwyr am ddau ddiwrnod ardderchog o DPP ac edrychwn ymlaen at y digwyddiad nesaf!

Dilynwch AWTTC: