9 Medi 2025
Yr wythnos diwethaf cynhaliwyd digwyddiad DPP i ddathlu 60fed Pen-blwydd uned NPIS Caerdydd! Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a hoffem ddiolch yn fawr iawn i'r holl siaradwyr a'r mynychwyr a ymunodd â ni i ddathlu hanes a dyfodol y gwasanaeth gwenwynau yma yng Nghymru.
Roedd yn gyfle gwych i gysylltu â chydweithwyr o bob rhan o'r NPIS a Chanolfan Gwybodaeth Gwenwynau Genedlaethol Iwerddon ond hefyd o sefydliadau eraill fel Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, RCCE, WEDINOS, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Edrychwn ymlaen at weld pawb eto yn y digwyddiad DPP nesaf yn Nulyn!