Mawrth 31
Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, mynychodd ein Arbenigwyr mewn Gwybodaeth Gwenwynau, Nathaniel Keymer a Bethan Hughes, ddigwyddiad 'Byddwch yn Wyddonydd' Prifysgol Caerdydd, sy'n rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2025.
Roedd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys stondinau o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a sefydliadau gwyddoniaeth gyda llawer o weithgareddau rhyngweithiol i'r plant gymryd rhan ynddynt. Roedd y mynychwyr yn cynnwys teuluoedd â phlant ifanc hyd at flynyddoedd cynnar yn eu harddegau, roedd y plant yn hynod frwdfrydig, ac roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr!
Roedd stondin NPIS Caerdydd ar y thema 'Byddwch yn Arbenigwr Gwenwynau' gyda dau weithgaredd a oedd yn cynrychioli ein gwaith wrth reoli achosion o wenwyno. Roedd y gweithgaredd cyntaf yn cynnwys penderfynnu gwenwyndra cemegau cartref cyffredin a chynhyrchion glanhau, dysgwyd teuluoedd sut i adnabod cliwiau ynghylch eu gwenwyndra (cynhwysion, labeli rhybuddio), yn ogystal â sut i'w storio'n gywir ac atal gwenwyno.
Ar ôl dysgu am y cynnyrch, byddai'r plant yn ei roi yn y cylchoedd gwyrdd, melyn neu coch i dynnu sylw at eu perygl. Roedd ein hail weithgaredd yn cynnwys cyfrifo dosau diogel, trwyddedig o parasetamol a sut i atal gorddos damweiniol. Roedd y plant yn mwynhau'r cyfle i gyfuno eu sgiliau mathemategol â gwyddoniaeth a gweithiodd yn dda gyda'i gilydd i ddatrys yr astudiaethau achos a gweithio allan os oedd angen sylw meddygol.
Fe wnaethom fwynhau bod yn rhan o'r digwyddiad cymunedol lleol hwn, roedd yn gyfle perffaith i siarad â theuluoedd ifanc a chodi ymwybyddiaeth o risgiau gwenwyno cyffredin a dulliau atal gwenwyno.