Neidio i'r prif gynnwy

Dan sylw: AWMSG yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2019-2020

Yn adroddiad blynyddol Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar ei newydd wedd cewch drosolwg o 2019-2020 wrth i AWMSG ddechrau ar bennod newydd.

Ym mis Gorffennaf 2019 penodwyd yr Athro Ceri Phillips yn Gadeirydd AWMSG i arwain y ffordd wrth i’r grŵp weithio tuag at gyflawni’r tri amcan allweddol a osodwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Nid yn unig bod adroddiad blynyddol AWMSG yn edrych yn wahanol, mae adroddiad 2019-2020 yn amlinellu gweledigaeth sy’n canolbwyntio ar gleifion drwy gyflawni gwell canlyniadau, gwella diogelwch meddyginiaethau a chefnogi darpariaeth gofal iechyd seiliedig ar werth.

"Wrth i AWMSG aeddfedu, byddaf yn ymroi i ymateb i’r her a osodwyd gan y Gweinidog o ran cyflawni’r amcanion ac, ar yr un pryd, yn gwneud AWMSG yn fwy perthnasol i GIG Cymru."

Yr Athro Ceri Phillips, Cadeirydd AWMSG

O adolygiad strategaeth pum mlynedd AWMSG i gerrig milltir yn ystod 2019-2020, mae’r adroddiad diweddaraf yn rhoi trosolwg o sut y mae AWMSG yn parhau i gefnogi presgripsiynu darbodus er mwyn cael y canlyniadau gorau o feddyginiaethau ar gyfer cleifion yng Nghymru.

Yn ystod 2019-2020 lansiwyd gwefan newydd AWMSG, gyda’i dyluniad yn canolbwyntio ar gynnwys perthnasol, nodweddion ymatebol a rhwyddineb llywio drwy’r wefan. Roedd AWMSG yn parhau wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi agenda’r Gymraeg Llywodraeth Cymru ac aeth tîm prosiect Cynllun Mynediad Cleifion Cymru ymlaen i adennill 97% o’r arbedion a gollwyd ar gyfer GIG Cymru.

Gallwch ddarllen adroddiad llawn AWMSG

Gallwch weld rhifynnau blaenorol adroddiad AWMSG

Dilynwch AWTTC: