23 Mehefin 2025
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyngor gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer tri meddyginiaeth.
- Argymhellir teriparatide i drin osteoporosis mewn dynion sydd â risg uwch o dorri asgwrn.
- Argymhellir panitumumab (Vectibix ® ) i drin math o ganser y colon a'r rhefrwm metastatig sy'n tarddu o ochr chwith y coluddyn mawr, os yw biopsi hylif yn cadarnhau bod y canser yn fath gwyllt RAS ac wedi ymateb yn flaenorol i driniaeth gyda meddyginiaeth sy'n targedu proteinau EGFR ar gelloedd canser ynghyd ag o leiaf un feddyginiaeth arall. Nid yw Panitumumab (Vectibix ® ) wedi'i drwyddedu ar gyfer ail-herio canser y colon a'r rhefrwm metastatig ac mae'n cael ei ddefnyddio 'oddi ar y label'. Atgoffir presgripsiynwyr y dylid nodi'n glir y risgiau a'r manteision ar gyfer ei ddefnyddio a'u trafod gyda'u cleifion a'u gofalwyr i ganiatáu caniatâd gwybodus, a dylai presgripsiynwyr ymgynghori â'r canllawiau ar ragnodi meddyginiaethau heb drwydded. Darllenwch ein taflen gwybodaeth i gleifion am ddefnydd meddyginiaethau heb drwydded ac oddi ar y label .
- Argymhellir trametinib (Mekinist ®) i drin canser yr ofari serws gradd isel (a elwir yn LGSOC) pan nad yw wedi ymateb i o leiaf un driniaeth cemotherapi a oedd yn cynnwys meddyginiaeth platinwm. Nid yw Trametinib (Mekinist ® ) wedi'i drwyddedu i drin LGSOC ac mae'n cael ei ddefnyddio 'oddi ar y label'. Atgoffir presgripsiynwyr y dylid nodi'r risgiau a'r manteision ar gyfer ei ddefnyddio yn glir a'u trafod gyda'u cleifion a'u gofalwyr i ganiatáu caniatâd gwybodus, a dylai presgripsiynwyr ymgynghori â'r canllawiau ar ragnodi meddyginiaethau heb drwydded. Darllenwch ein taflen wybodaeth i gleifion am ddefnydd meddyginiaethau heb drwydded ac oddi ar y label .
Mae Gwasanaeth Mynediad i Feddyginiaethau i Gleifion (PAMS) AWTTC yn cefnogi'r AWMSG i asesu a monitro meddyginiaethau newydd yng Nghymru.