Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyngor gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer pum meddyginiaeth.
- Argymhellir dupilumab (Dupixent®) ar gyfer trin ecsema difrifol ymhlith plant 6 i 11 oed.
- Argymhellir opicapone (Ongentys®) ar gyfer trin clefyd Parkinson a phroblemau symud cysylltiedig ymhlith oedolion sydd eisoes yn cymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys levodopa ac atalyddion digarbocsylas DOPA. Argymhellir opicapone wedi entacapone.
- Argymhellir lurasidone (Latuda®) ar gyfer trin sgitsoffrenia ymhlith pobl ifanc rhwng 13 a 17 oed. Defnyddir lurasidone eisoes ar gyfer trin sgitsoffrenia ymhlith oedolion.
- Argymhellir idebenone (Raxone®) ar gyfer trin nam ar y golwg ymhlith oedolion a’r glasoed sydd â chlefyd y llygad o’r enw Niwropatheg Optig Etifeddol Leber (LHON).
- Argymhellir melatonin (Slenyto®) ar gyfer trin anhawster cysgu ymhlith plant a phobl ifanc rhwng 2 a 18 oed sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistiaeth a/neu syndrom Smith-Magenis (cyflwr a etifeddir sy’n effeithio ar y nerfau a’r ymennydd) pan nad yw trefn cysgu iach (megis amser gwely rheolaidd ac amgylchedd cysgu esmwythaol) wedi gweithio’n ddigon da.
Mae Gwasanaethau Mynediad Cleifion at Feddyginiaeth (PAMS) AWTTC yn cefnogi AWMSG i asesu a monitro meddyginiaethau newydd yng Nghymru.