Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad WNPU – diagnosis o farwolaeth yn ôl meini prawf niwrolegol

11 Hydref 2024

Llongyfarchiadau i Gyfarwyddwr Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru, Dr Laurence Gray, y cyhoeddwyd ei bapur o'r enw “Rôl y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS)  yn y diagnosis o farwolaeth yn unol â meini prawf niwrolegol mewn cleifion wedi’u gwenwyno a chleifion heb eu gwenwyno" yn llwyddiannus yng Nghylchgrawn y Gymdeithas Gofal Dwys ym mis Hydref 2024.

Roedd y papur yn gydweithrediad gyda Jeanie Worthington ac Ian Thomas o Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste, Leon Cohen o Ysbyty Athrofaol Cymru, a chyd-gyfarwyddwyr unedau NPIS yn Birmingham, Caeredin a Newcastle. Gweler crynodeb o'r papur isod:

Mae diagnosis o farwolaeth yn ôl meini prawf niwrolegol (DNC) yn gofyn am eithrio unrhyw effaith glinigol y gellir ei phriodoli i senobiotigau. Gwnaethom gynnal dadansoddiad ôl-weithredol o ymholiadau i'r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS) sy'n ymwneud â DNC dros gyfnod o 10 mlynedd. Cafodd ymholiadau eu categoreiddio fel rhai gwenwynegol, lle roedd achos o ddod i gysylltiad â senobiotig a roddwyd yn antherapiwtig yn rhan o’r cyflwyniad clinigol, a rhai nad oeddent yn wenwynegol, lle nad dod i gysylltiad â'r senobiotig oedd prif achos y cyflwr clinigol. Mae amlder yr ymholiad i'r NPIS ynghylch senobiotigau a DNC yn dangos ei fod yn parhau i fod yn ffynhonnell werthfawr o gyngor arbenigol.

I ddarllen y papur llawn, cliciwch yma.

Dilynwch AWTTC: