Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2023-2024.
Yn adroddiad blynyddol diweddaraf AWMSG, gallwch ddarllen am yr holl ddigwyddiadau allweddol a gwaith cydweithredol y mae AWMSG wedi’u cyflawni ar gyfer Cymru yn 2023-2024.
Yn ogystal â chrynhoi’r holl waith a gwblhawyd gan AWMSG yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys:
- myfyrdodau ar ddatblygu strategaeth pum mlynedd newydd AWMSG a'r camau nesaf i'w cymryd ar gyfer gweithredu
- amlygu pwysigrwydd cynnwys cleifion a’r cyhoedd yng ngwaith AWMSG, sut y maent wedi cydweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a sut y gall pobl barhau i gymryd rhan
- cydnabyddiaeth o'r cymorth y mae AWMSG wedi'i gael gan amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu gwaith; datblygu canllawiau arfer gorau, cymryd rhan mewn ymgynghoriadau a chyfrannu at arfarniadau meddyginiaeth
- crynhoi sut mae AWMSG a’r diwydiant fferyllol wedi parhau i gydweithio tuag at y nod cyffredin o wella canlyniadau iechyd i gleifion.
Lluniwyd adroddiad blynyddol AWMSG gan AWTTC. Gallwch ddarllen adroddiad blynyddol llawn AWMSG 2023-2024 yma.
Darllenwch rifynnau blaenorol o Adroddiad Blynyddol AWMSG yma.