I baratoi ar gyfer lansiad y Llwybr Trwyddedu a Mynediad Arloesol (ILAP) ar ei newydd wedd ar gyfer y DU gyfan ar 31 Mawrth, cynhaliodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) weminar ddydd Mercher, 5 Mawrth i gyflwyno’r llwybr ac amlygu gwelliannau allweddol.
Roedd Dr Andrew Champion, Cyfarwyddwr Rhaglen AWTTC, ymhlith y siaradwyr allweddol a ymunodd â phartneriaid ILAP eraill o’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), Consortiwm Meddyginiaethau’r Alban (SMC), GIG Lloegr (NHSE) a MHRA.
Clywodd y gynulleidfa sut y bydd cam nesaf ILAP yn cyflymu mynediad cleifion i feddyginiaethau newydd trawsnewidiol a chyfuniadau dyfais cyffuriau trwy ddarparu un llwyfan integredig sydd bellach yn llawer cliriach, symlach a mwy cydgysylltiedig na’i ragflaenydd. Bydd yn gwneud y DU yn lle mwy deniadol i ddatblygu a lansio cynhyrchion arloesol a darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf er budd cleifion. I fod yn gymwys ar gyfer yr ILAP, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno meddyginiaethau nad ydynt eto wedi dechrau ar eu treial cadarnhau, a fydd yn rhoi mwy o gyfle i elwa ar y cymorth a gynigir o fewn y llwybr.
Dywedodd Dr Champion “Mae AWTTC yn falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen gydweithredol gyffrous hon ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid ILAP ar y llwybr newydd.”
Gallwch wylio recordiad o'r weminar yma.
I wneud cais am Basbort Arloesi, ewch i https://bit.ly/42jluhC
Darllenwch y canllawiau llawn ar gyfer yr ILAP ar ei newydd wedd yma https://bit.ly/42zC9y1