Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Rhaglen AWTTC yn siarad yng Nghynhadledd NICE 2025

Mae Cyfarwyddwr Rhaglen AWTTC, Dr Andrew Champion, wedi siarad am ei bleser a'i anrhydedd i gael gwahoddiad i siarad yng Nghynhadledd 2025 y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) i ddathlu 25 mlynedd o gyfraniad y sefydliad i ganllawiau iechyd.

Daeth y gynhadledd, a gynhaliwyd ym Manceinion ar 27 Mawrth, â staff rheng flaen ac arweinwyr o’r maes iechyd a gofal ledled y DU â’r sectorau gwyddorau bywyd, technoleg iechyd a digidol ynghyd, i archwilio sut mae NICE yn parhau i drawsnewid i ddiwallu anghenion y system sy’n newid yn gyflym.

Fel rhan o’r sesiwn “Hybu atebion creadigol mewn asesiad technoleg iechyd”, siaradodd Dr Champion am y prosesau mynediad at feddyginiaethau sydd newydd eu lansio yng Nghymru, a ddatblygwyd gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) ar ran Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG). Mae NICE ac AWMSG wedi gorfod addasu eu prosesau i gyd-fynd â'r dirwedd gofal iechyd sy'n newid yn gyflym er mwyn darparu'r gofal gorau i bobl. Mae'r sefydliadau hyn yn rhannu diddordeb yn yr ymgyrch i wella mynediad cleifion at feddyginiaethau drwy hyrwyddo'r defnydd gorau o feddyginiaethau a datblygu cyngor amserol, annibynnol ac awdurdodol. Eglurodd Dr Champion hefyd sut mae AWTTC bellach yn cydweithio ar ddulliau HTA arloesol ar draws ffiniau sefydliadol yn y DU ac yn rhyngwladol, ac mae’r fethodoleg gydweithredol hon eisoes yn gwneud gwahaniaeth.

Dywedodd Dr Champion “Roedd yn bleser ac yn anrhydedd cael fy ngwahodd i siarad yng Nghynhadledd NICE. Mae AWMSG ac AWTTC bob amser wedi mwynhau perthynas agos â NICE o ran cynllunio strategol, datblygu a darparu cyngor yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn ymdrechu’n galed i osgoi dyblygu neu amrywiant a’n nod yw ategu a chefnogi gwaith ein gilydd.” 

Bu Dr Champion hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’i gyd-siaradwyr Jamie Elvidge, Uwch Gynghorydd Gwyddonol yn NICE a Philip Morgan, Cyfarwyddwr Canlyniadau Iechyd y DU o GSK. Jeanette Kusel, Cyfarwyddwr Rhaglen NICE, Dulliau, Ymchwil ac Economeg Iechyd, oedd yn cadeirio’r sesiwn.

Dilynwch AWTTC: