Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod y Grŵp er budd Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG) - 12 Tachwedd

Cynhaliwyd cyfarfod diweddaraf y Grŵp er budd Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG) yn rhithwir ar 12 Tachwedd 2021. Thema'r cyfarfod oedd data cleifion a sut mae'n cael ei ddefnyddio yng ngwaith AWTTC i helpu i sicrhau dull gwell a mwy diogel o bresgripsiynu ar gyfer pobl Cymru.

Roedd y cyfarfod yn cynnwys sawl sgwrs ddifyr a llawn gwybodaeth am y pwnc hwn.  Gwnaeth Dr Clare Elliott, Uwch-wyddonydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Chleifion, agor y cyfarfod drwy groesawu’r holl fynychwyr newydd a’r rhai a oedd yn dychwelyd, ac annog adborth a thrafod trwy gydol y cyfarfod. 

Rhoddodd Claire Thomas, uwch-fferyllydd yn AWTTC, gipolwg ar y dangosyddion presgripsiynu cenedlaethol (NPIs), beth ydynt a sut maent yn gweithio.  Tynnodd Claire sylw at bwysigrwydd yr NPIs sy'n darparu negeseuon clir i bresgripsiynwyr ar ddiogelwch, stiwardiaeth ac effeithlonrwydd  er mwyn helpu i gyflawni arfer da.  Gall byrddau iechyd a phractisau meddygon teulu hefyd eu defnyddio i feincnodi eu hunain yn erbyn eraill.  Dysgodd y cynrychiolwyr beth sy'n gwneud dangosyddion presgripsiynu da, sy'n cynnwys eu bod yn cael eu dilysu, yn seiliedig ar dystiolaeth, yn glir, eu safoni a bod iddynt nod neu darged. Soniodd Claire hefyd fod cleifion a'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i roi sylwadau ar y dangosyddion arfaethedig pan gânt eu hadolygu bob blwyddyn.

Roeddem yn falch iawn o groesawu Keith Howkins, Prif Arbenigwr Gwybodaeth Gofal Iechyd Digidol Cymru (DHCW), a roddodd drosolwg gwych ar sut mae data cleifion yn cael ei gasglu, ei ddefnyddio a'i storio gan GIG Cymru, a sut mae'r data hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio gofal cleifion a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Yna cyflwynodd Claire James, cynrychiolydd cleifion a hefyd aelod lleyg ar Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) safbwynt y claf ar ddefnyddio data cleifion mewn sgwrs a oedd yn ysgogi'r meddwl. Tynnodd Claire sylw at y ffaith fod darparu gofal iechyd da yn dibynnu ar wybodaeth a gafwyd drwy ddadansoddi data o'r fath, ac mae caniatáu i'n data iechyd personol gael ei ddefnyddio yn allweddol i hyn. Soniodd fod rheolau llywodraethu gwybodaeth llym o fewn GIG Cymru i gadw data cleifion yn ddiogel.

Rhoddodd Gail Woodland, uwch-fferyllydd yn AWTTC, gyflwyniad yn amlinellu sut y defnyddir data ym mhroses Meddyginiaethau Cymru'n Un ac mewn Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFRs).  Esboniodd Gail sut mae data'n cael ei ddefnyddio i lywio'r ddwy broses a'r mesurau sydd ar waith i ddiogelu unrhyw wybodaeth sy’n gallu adnabod cleifion. 

Soniodd Jenna Walker, Fferyllydd Gwybodaeth Arbenigol o Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru am yr hyn sy'n digwydd i Gerdyn Melyn ar ôl iddo gael ei gyflwyno. Roedd hyn yn dilyn cyfarfod PAPIG blaenorol pan roddodd Jenna drosolwg o'r Cynllun Cerdyn Melyn a ddefnyddiwyd i roi gwybod am sgil-effeithiau meddyginiaethau a brechlynnau. Yn y sgwrs hon, tynnodd Jenna sylw at sut mae traean o'r adroddiadau a dderbyniwyd yn 2015 wedi arwain at newid cyngor i bresgripsiynwyr a chleifion, gan leihau'r risgiau sy’n gysylltiedig â chymryd y meddyginiaethau hyn ac arwain at well iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn dangos sut y gall adrodd am sgil-effeithiau gael effaith wirioneddol, a pha mor bwysig yw annog cymaint o bobl â phosibl i lenwi Cerdyn Melyn, oherwydd amcangyfrifir mai dim ond 10% o adweithiau sydd byth yn cael eu hadrodd.

Trafododd Kath Haines, pennaeth Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru (WAPSU) AWTTC, sut mae data'n cael ei ddefnyddio i fonitro’r dull o bresgripsiynu meddyginiaethau yng Nghymru, sut mae hyn yn gwella canlyniadau iechyd a sut mae'r data hwn yn cael ei gasglu, ei ddadansoddi a'i rannu o fewn GIG Cymru.  Aeth Kath ymlaen i siarad am y dangosfwrdd diogelwch meddyginiaethau, sy'n mesur y cynnydd ynghylch presgripsiynu diogel yn genedlaethol ac yn lleol, ac yn golygu y gellir cymharu byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol, a defnyddio offer i allu nodi achosion o niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau. 

Ar gyfer y cyflwyniad terfynol, rhoddodd Richard Boldero, uwch-fferyllydd yn AWTTC, y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect yn nodi cyfleoedd i wella dulliau presgripsiynu sy'n cynnwys defnyddio data presgripsiynu i nodi a monitro’r broses o bresgripsiynu rhai meddyginiaethau yr ystyrir eu bod yn flaenoriaeth isel ar gyfer cyllid. Mae'r rhain yn eitemau na ddylid eu presgripsiynu fel mater o drefn, naill ai oherwydd bod tystiolaeth sylweddol i ddangos nad ydynt yn effeithiol, neu oherwydd bod cynhyrchion gwell neu fwy diogel ar gael y dylid eu defnyddio yn lle hynny. 

Yn dilyn y cyfarfod hwn, anfonwyd rhywfaint o wybodaeth ddilynol yn deillio o'r trafodaethau, a hefyd manylion am waith AWTTC lle byddem yn gwerthfawrogi mewnbwn cleifion a'r cyhoedd, at bawb a fynychodd.

Rydym eisoes yn cynllunio'r rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ddiwedd mis Chwefror/dechrau mis Mawrth 2022 - bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi'n fuan.  Mae fideo o'n cyfarfod PAPIG ym mis Tachwedd ar gael isod (Saesneg yn unig)

Dilynwch AWTTC: