Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cymdeithas Geriatreg Prydain 2024

12 Gorffennaf 2024

Cyflwynodd uned y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS) Caerdydd crynodeb yn llwyddiannus i Gyfarfod Gwanwyn Cymdeithas Geriatreg Prydain 2024. Teitl y crynodeb oedd "Defnyddio data'r ganolfan wenwynau i nodi risgiau diogelwch posibl sy'n gysylltiedig â defnyddio systemau monitro dos."

Roedd hwn yn gydweithrediad rhwng NPIS y DU, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac AWTTC yn dilyn trafodaeth gydag aelodau o bob sefydliad ar ôl cyfarfod yn Niwrnod Arfer Gorau AWTTC yn 2023.

Crynodeb:

Cyflwyniad: Mae systemau monitro dos (SMD) yn cwmpasu ystod eang o ddyfeisiau i helpu rheoli meddyginiaeth. Mae'r ymchwil hon yn defnyddio data canolfannau gwenwyn i archwilio risgiau gysylltiedig â'u defnydd.

Dull: Cynhaliwyd chwiliad am ymholiadau gorddos damweiniol i’r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau y DU (NPIS) rhwng 1/01/2017-31/12/22, wedi'i ddosbarthu fel "gwall therapiwtig/gwall meddygol" yn cynnwys cleifion dros 65 oed. Nodwyd ymholidau oedd yn cynnwys SMD. Dadansoddwyd data gan ddefnyddio ystadegau disgrifiadol a phrawf chi-sgwâr.

Canlyniadau: Roedd 394 o ymholiadau yn ymwneud â 393 o gleifion, oedran cyfartalog y cleifion oedd 81 oed. Roedd llawer mwy o fenywod (n=266) na dynion (n=127), p = <0.0001. Digwyddodd datguddiadau yn y cartref (n=372), mewn cartrefi gofal (n=18), mewn carchardai (n=2) ac yn ysbyty (n=1). Adroddwyd am nam gwybyddol mewn 32.5% o gleifion (n=127). Y 10 meddyginiaeth fwyaf cyffredin oedd bisoprolol (n=74), lansoprazole (n=59), atorvastatin (n=58), aspirin (n=47), omeprazole (n=43), amlodipine (n=44), paracetamol (n=42), clopidogrel (n=42), ramipril (n=42) a metformin (n=35). Symptomau cyffredin wedi eu cofnodi oedd syrthni (n=16), pendroni (n=13), dryswch (n=11), blinder (n=7) a phwysedd gwaed isel (n=5). Rhesymau cyffredin am y digwyddiadau oedd camgymeriadau gan y claf neu aelod o'r teulu (n=189), meddyginiaethau a gymerwyd heb dyst (n = 88), y SMD yn anghydnaws gyda’r presgripsiwn (n=22), y claf yn cymeryd meddyginiaeth rhywun arall (n=19), y claf yn cymeryd meddyginiaeth o’r SMD yn ogystal â feddyginiaeth o’r pecyn cyffredin (n=15), a dosau ychwanegol a weinyddir gan wahanol bobl (N = 15). Argymhellwyd y NPIS dylai 51% o’r cleifion ymweld a’r Adran Achosion Brys (n=200) ac argymhellwyd i 18% ymweld â'u meddyg teulu (n=71).

Casgliad: Ystyrir bod SMD yn gwella ymlyniad, ond mae'r canlyniadau hyn yn datgelu eu potensial i achosi niwed. Er enghraifft, cynghorwyd y rhan fwyaf o gleifion yn yr ymholiadau hyn i geisio gymorth meddygol. Mae'n debygol nad yw niwed SMD yn cael ei adrodd yn llawn, gan fod hon yn astudiaeth ôl-weithredol nad oedd y gwybodaeth llawn yn cael ei gasglu yn arferol. Mae angen rhagor o waith gan gynnwys astudiaeth darpar yn ogystal â fwy o gefnogaeth i hybu defnydd meddyginiaeth fwy diogel trwy gwella cyfathrebu, addysg a telwra cefnogaeth.

Cafodd y poster dderbyniad da gan fynychwyr y gynhadledd ac mae'n enghraifft o bwysigrwydd cydweithio rhwng gwahanol sefydliadau i gyfuno data a gwybodaeth i roi gwybod i a gwella'r prosesau presennol.

Mae'r crynodeb hwn yn cael ei ddatblygu'n bapur ymchwil a gobeithio y bydd yn cael ei gyflwyno i gyfnodolyn BGS Age and Ageing eleni.

Dolen i wefan Cyfarfod Gwanwyn BGS 2024 yma.

Dilynwch AWTTC: