Cynhaliodd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), ar y cyd â Healthcare Improvement Scotland a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, Gyfarfod Blynyddol Asesu Technoleg Iechyd Rhyngwladol (HTAi). Cynhaliwyd y cyfarfod yn rhithwir a chafwyd presenoldeb da gan gydweithwyr AWTTC.
Mae’r Cyfarfod Blynyddol yn cefnogi cenhadaeth HTAi i hyrwyddo datblygiad, dealltwriaeth a defnydd asesu technoleg iechyd (HTA) ledled y byd, fel modd o feithrin arloesedd a defnydd effeithiol ar adnoddau ym maes gofal iechyd.
Mynychodd bron i fil o weithwyr HTA proffesiynol o bob rhan o’r byd gyfarfod eleni ar gyfer deuddydd o weithdai a thridiau o gyflwyniadau. Cynhaliodd AWTTC stondin arddangos a chyflwyno pum poster:
Perfformiodd Only Men Aloud ynnigwyddiad Derbyniad Croesawu HTAi. Mae fideo o'r perfformiad ar gael isod.
Amcangyfrifodd y trefnwyr bod y mynychwr wedi gwylio dros 4,250 awr o ddeunydd yn ystod y gynhadledd. Mae mynediad at adnoddau’r cyfarfodydd wedi’i alluogi tan fis Medi 2021. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol 2022 gan gydweithwyr yn Utrecht, yr Iseldiroedd - y gobaith yw y byddwn yn gallu cyfarfod wyneb yn wyneb!