Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o Gyfarfod PAPIG Gorffennaf 2021

Cynhaliwyd cyfarfod y Grŵp er budd Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG) rhithwir cyntaf ar 23 Gorffennaf, a oedd yn canolbwyntio ar gyfathrebu ac ymgysylltu.  Gan fod y cyfarfod yn rhithwir, roedd yn ein galluogi i gysylltu â chynulleidfa ehangach a gwella hygyrchedd y cyfarfod ar gyfer pobl o bob rhan o Gymru.

Roedd y cyfarfod yn cynnwys sawl sgwrs ddifyr a defnyddiol ar amrywiaeth o bynciau gwahanol yn ymwneud â meddyginiaethau.  Agorodd Dr Clare Elliott, Uwch-wyddonydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Chleifion, y cyfarfod drwy groesawu’r holl fynychwyr newydd a’r rhai a oedd yn dychwelyd ac annog adborth a thrafod trwy gydol y cyfarfod. 

Rhannodd Ruth Lang, Pennaeth Cyswllt AWTTC, wybodaeth am gefndir AWTTC ac AWMSG cyn trosglwyddo at Richard Boldero, Wendy Casey, a Gail Woodland a ddarparodd gyflwyniadau gweledol i gael eu cynnwys yn y cyfarfod. Gwnaeth pob un ohonynt dynnu sylw at ffyrdd penodol y bu AWTTC yn cefnogi ymateb GIG Cymru i’r pandemig.  Siaradodd Richard am yr Hyb Therapiwteg ar wefan AWTTC, rhannodd Wendy wybodaeth am sicrhau bod meddyginiaethau diwedd oes ar gael yn sydyn i’r rhai hynny a oedd eu hangen ledled Cymru, a siaradodd Gail am sut defnyddiwyd y broses Meddyginiaethau Cymru’n Un i adolygu meddyginiaethau ar gyfer canser y prostad y gallai gleifion eu cymryd gartref ac osgoi dod i’r ysbyty am driniaeth yn ystod y pandemig.

Rhoddodd ein Huwch Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu newydd, Lia McKenzie, gyflwyniad diddorol ar y strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu newydd, gan ganolbwyntio’n arbennig ar gleifion a’r cyhoedd.  Yna trosglwyddodd Lia at Rob Lee, Is-gadeirydd Grŵp Cyfeirio Cleifion Diabetig Cymru Gyfan, a rannodd ei safbwyntiau ac adrodd am ei brofiadau yn gweithio gydag AWTTC ac AWMSG o safbwynt Diabetes UK.  Bydd nifer o’r rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn cofio Rob yn dyfynnu “Peidiwch siarad amdana i, hebof fi”, gan gyfeirio at bwysigrwydd cyfathrebu clir rhwng cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Gyda chynaliadwyedd a datgarboneiddio yn chwarae rôl bwysig mewn cymdeithas a’r agenda iechyd heddiw, rhoddodd Dr Carolyn Hughes gyflwyniad amserol ar y strategaeth newydd yn manylu ar sut y mae AWMSG ac AWTTC yn bwriadu darparu Cymru iachach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rhoddodd Jenna Walker, Fferyllydd Gwybodaeth Arbenigol o Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru, gyflwyniad defnyddiol yn amlygu pwysigrwydd adrodd am adweithiau niweidiol i feddyginiaethau, yn cynnwys brechlynnau COVID. 

Siaradodd Claire Ganderton, Uwch-fferyllydd ac Arweinydd Sganio’r Gorwel, am brosiect y mae hi’n arwain sy’n edrych ar sut y gall GIG Cymru gynllunio ar gyfer effaith bosibl meddyginiaethau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Caiff prosiect Claire ei gefnogi gan grant cymrodoriaeth a ariennir gan RCBCWales trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru.  Diben y prosiect yw cael gwell dealltwriaeth o ba wybodaeth sydd ei hangen ar arbenigwyr clinigol yng Nghymru ynghylch meddyginiaethau sydd ar y gweill a sut y gellir diwallu’r anghenion hynny orau.  Bydd Claire hefyd yn edrych am ffyrdd gwell i AWTTC ac arbenigwyr clinigol weithio gyda’i gilydd i wella’r gwaith o gynllunio meddyginiaethau newydd yn GIG Cymru.

Dr Lynette James, Arweinydd Diogelwch Cleifion Cymru Gyfan, a roddodd y cyflwyniad olaf ond un ar y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi cleifion i ddefnyddio corticosteroidau yn ddiogel.  Yna trosglwyddodd Lynette at Dr Tom Curran, Uwch-wyddonydd, a eglurodd sut y mae Fframwaith Optimeiddio Meddyginiaethau yn rhoi eglurder ar y broses o ddatblygu canllaw ar sut y gall pobl fod yn rhan o’r gwaith i ddarparu’r canlyniadau gorau ar gyfer cleifion o’u meddyginiaethau.

Trwy gydol y cyfarfod, cafodd sylwadau eu rhannu yn y man sgwrsio ar Zoom a chafwyd peth adborth defnyddiol, sydd wedi’i groesawu gan AWTTC.  Cafwyd sylwadau gan fynychwyr ynghylch pa mor ddiddorol, addysgiadol ac ysbrydoledig oedd y cyflwyniadau, yn enwedig y rhai a roddwyd ar sut i ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd yn y ffordd orau.  Dywedodd unigolion a oedd yn dod i’r cyfarfod PAPIG am y tro cyntaf ei bod yn dda cael eglurder a gwybodaeth am AWTTC a’r gwaith rydym yn ei wneud, yn ogystal â chlywed profiadau ac adborth gan eraill a oedd yno.

Rydym eisoes yn cynllunio’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf a gaiff ei gynnal ar 12 Tachwedd.

Dilynwch AWTTC: