Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn sicrhau £3.3 miliwn o gyllid i wella dulliau sganio'r gorwel, cipio data, a mynediad at feddyginiaethau

2 Rhagfyr 2024

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) wedi sicrhau cyllid o £3.3 miliwn o Raglen Fuddsoddi’r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi’u Brandio (VPAG).

Cytunwyd ar y Rhaglen VPAG gan Lywodraeth y DU, GIG Lloegr a Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) a bydd cyllid ar gael dros gyfnod o bum mlynedd i gefnogi nifer o ffrydiau gwaith pwysig.

Nod Rhaglen Fuddsoddi VPAG yw galluogi cleifion i gael mynediad at y triniaethau diweddaraf yn fwy cyson, cryfhau cystadleurwydd byd-eang y DU mewn gofal iechyd, technoleg ac ymchwil glinigol uwch a hyrwyddo gwell canlyniadau i gleifion ar gyfer poblogaeth iachach. 

Bydd AWTTC yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol i wella mynediad at feddyginiaethau clinigol a chosteffeithiol yng Nghymru, y dull o’u gweithredu a’u monitro. Y meysydd hyn yw:

  1. Sganio'r gorwel a rhagolygon ariannol
  2. Gwell dulliau a phrosesau asesu ar gyfer mynediad at feddyginiaethau
  3. Dulliau cipio data a delweddu mwy effeithiol i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau a ffyrdd gwell o optimeiddio meddyginiaethau
  4. Gwell cefnogaeth i'r nifer sy'n manteisio ar feddyginiaethau newydd ar ôl asesiad (a’u gweithrediad)

Dywedodd Dr Andrew Champion, Cyfarwyddwr Rhaglen AWTTC: “Mae AWTTC yn falch iawn o dderbyn y buddsoddiad sylweddol hwn, a fydd yn helpu i hwyluso mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru a gwella canlyniadau i gleifion.

“Hoffwn ddiolch i holl staff AWTTC am eu cefnogaeth i sicrhau’r cyllid hwn sy’n garreg filltir i Gymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am VPAG ewch i gynllun gwirfoddol 2024 ar gyfer prisio, mynediad a thwf meddyginaethau wedi’u brandio - GOV.UK (www.gov.uk)

 

Dilynwch AWTTC: