4 Rhagfyr 2025
Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) 2025 ar 7 Tachwedd yn Convene yn Llundain. Daeth y digwyddiad â gweithwyr fferyllol proffesiynol o bob rhan o’r DU ynghyd ar gyfer diwrnod o drafodaethau panel, sesiynau rhyngweithiol a chyflwyniadau. Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys arddangosfa bosteri gystadleuol yn arddangos arloesedd, ymchwil ac arfer da o bob rhan o’r sector.
Mae AWTTC yn falch iawn o fod wedi ennill y Wobr Gyntaf am y Cyflwyniad Poster Gorau yng nghynhadledd eleni. Cyflwynwyd y poster 'Datblygu Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2025–2028 ar gyfer GIG Cymru: Dan Arweiniad Rhanddeiliaid' gan Shaila Ahmed, Uwch Fferyllydd yn AWTTC.
Tynnodd sylw at ba mor hanfodol oedd ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid i sicrhau bod y Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) diwygiedig ar gyfer 2025–2028 yn berthnasol, yn ymarferol ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau therapiwtig ar draws GIG Cymru. Roedd rhoi’r gorau i ddefnyddio dangosyddion gwrthgeulo yn adlewyrchu cynnydd parhaus ac yn dangos effaith dangosyddion presgripsiynu cenedlaethol wrth sbarduno newid cadarnhaol. Cyflwynwyd dangosyddion newydd i fynd i’r afael â bylchau allweddol mewn rheoli clefyd cronig yr arennau, stiwardiaeth wrthficrobaidd a gofal asthma, tra bod mireinio mesurau presennol yn cefnogi gwelliant parhaus. Yn gyffredinol, mae Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2025–2028 yn cynrychioli parhad ac arloesedd, gan ddarparu adnoddau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer gyrru newid cadarnhaol mewn arferion presgripsiynu ledled Cymru.
Rydym hefyd yn falch o rannu bod y crynodeb sy’n gysylltiedig â’r poster wedi’i gyhoeddi yn yr International Journal of Pharmacy Practice - gallwch ei weld yma: https://academic.oup.com/ijpp/article/33/Supplement_1/i13/8314692 .
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus AWTTC i wella arferion presgripsiynu ac optimeiddio meddyginiaethau ar draws GIG Cymru.
Am ragor o wybodaeth am Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) 2025–2028 ewch i’n gwefan.