12 Gorffennaf 2024
Roedd yn ddiwrnod cyffrous o ddysgu yn y gweithdy Cais Cyllido Claf Unigol (IPFR) a gynhaliwyd gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) ar 16 Mai yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae’r gweithdy blynyddol yn ddigwyddiad hyfforddi i aelodau panel IPFR, cydweithwyr y bwrdd iechyd sy’n ymwneud â chyflwyno’r broses IPFR a chlinigwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am IPFR.
Gwnaeth Cyfarwyddwr Clinigol AWTTC, yr Athro James Coulson, groesawu cynrychiolwyr i’r diwrnod, a oedd yn cynnwys nifer o Fyrddau Iechyd Cymru, Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCC) a Technoleg Iechyd Cymru (HTW).
Dechreuodd Tony Williams, Pennaeth Mynediad Cleifion at Feddyginiaethau AWTTC, y bore gyda diweddariad ar fentrau newydd yn AWTTC yn ymwneud â mynediad at feddyginiaethau, gan gynnwys lansiad Strategaeth 5 mlynedd newydd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, a newidiadau i lwybrau asesu meddyginiaethau yng Nghymru.
Yna gwahoddwyd clinigwyr i fynychu sesiwn hyfforddi ar gwblhau ffurflenni cais IPFR ac e-gyflwyniadau a gynhaliwyd gan Rosie Spears o AWTTC ac Ann-Marie Matthews, prif gydlynydd IPFR, BIP Aneurin Bevan. Clywodd y cynrychiolwyr a oedd yn weddill gan yr Athro Coulson, sydd hefyd yn Gadeirydd Grŵp Sicrhau Ansawdd IPFR, am themâu allweddol a godwyd o’r 12 mis diwethaf wrth sicrhau ansawdd y broses IPFR. Dilynwyd hyn gan yr economegwyr iechyd, Dr Tom Winfield o AWTTC a Dr Rebecca Boyce o HTW, yn cyflwyno sesiwn gynhwysfawr ar economeg iechyd, trothwyon a dadansoddiad cymharol, a sut i asesu gwerth ymyriadau.
Yn ystod gweithdy’r flwyddyn flaenorol, rhoddodd oncolegydd ymgynghorol o Ganolfan Ganser Felindre ddisgrifiad dilys o’r broses IPFR o safbwynt clinigwr sy’n cyflwyno; eleni, roedd y cynrychiolwyr yn ymddiddori’n fawr ac yn ddiolchgar iawn i glywed am brofiad claf a gafodd driniaeth drwy’r broses IPFR.
Ar ôl cinio, cafodd cynrychiolwyr gyfle i fynd trwy astudiaethau achos a ffurfio paneli i ystyried enghreifftiau o gyflwyniadau IPFR a phenderfynu a ddylid cymeradwyo cyllid ai peidio, a arweiniodd at drafodaethau diddorol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gweithdai IPFR - Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (nhs.wales)