Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn cynnal Diwrnod Agored Diwydiant AWMSG

01 Rhagfyr 2023

Ym mis Tachwedd 2023, cynhaliodd AWTTC Ddiwrnod Agored Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer ein rhanddeiliaid yn y diwydiant fferyllol. Pwrpas y Diwrnod Agored yw:

  • arddangos gwaith AWMSG ac AWTTC;
  • gadael i gynrychiolwyr ddysgu'n uniongyrchol am y datblygiadau diweddaraf yn strategaeth AWMSG, mynediad at feddyginiaethau a sganio'r gorwel; a
  • creu lleoliad i feithrin partneriaethau.

Croesawodd digwyddiad mis Tachwedd – y Diwrnod Agored wyneb yn wyneb cyntaf ers 2019 – 51 o gynrychiolwyr fferyllol.

Yn sesiynau'r bore rhoddodd AWTTC gyfres o gyflwyniadau cydweithredol ar: adeiladu ymgysylltiad effeithiol rhwng rhanddeiliaid; y dirwedd mynediad at feddyginiaethau newidiol yng Nghymru; a myfyrdod ar werth cyfranogiad diwydiant i'n gwaith ac i'r GIG yng Nghymru. Amlinellodd cyflwynwyr gwadd o’r Uned Gwerth Meddyginiaethau (MVU) sut y maent yn bwriadu cefnogi GIG Cymru i sicrhau’r gwerth a’r canlyniadau gorau posibl o feddyginiaethau i bob claf yng Nghymru. Sefydlwyd yr Uned Gwerth Meddyginiaethau ym mis Medi 2023 a'i nod yw defnyddio dull sy'n seiliedig ar werth wrth gaffael meddyginiaethau.

Cynhaliwyd cwestiynau'r cynrychiolwyr ar gyfer y cyflwynwyr tan sesiynau rhwydweithio'r prynhawn, a gynhaliwyd gan AWTTC a'r MVU. Ysgogodd y cwestiynau hyn drafodaethau grŵp defnyddiol a helpodd i feithrin cysylltiadau gwerthfawr â’n partneriaid yn y diwydiant.

Wrth i AWTTC wynebu heriau newydd ac ymdrechu i gefnogi’r AWMSG i gyflawni ei uchelgeisiau (a amlinellir yn y ‘Strategaeth i Gymru: 2024–2029’), edrychwn ymlaen at weithio gyda’r MVU, y diwydiant fferyllol, cleifion a staff gofal iechyd i ddatblygu ymagwedd gydgysylltiedig at fynediad at feddyginiaethau i bobl Cymru. Gallwch ddod o hyd i fanylion y Diwrnod Agored a'r cyflwyniadau a roddwyd ar wefan AWTTC .

Dilynwch AWTTC: