7 Hydref 2024
Mae’n bleser gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) gyhoeddi adroddiad blynyddol Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) ar gyfer 2023 – 2024.
Mae'r adroddiad, a luniwyd gan AWTTC, yn amlygu gwaith y timau IPFR ar draws holl Fyrddau Iechyd Cymru a Chydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gynt).
Yn 2023-2024 mae timau IPFR ledled Cymru wedi parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i gleifion y gallai fod angen triniaethau arnynt nad ydynt ar gael fel mater o drefn yn GIG Cymru. Mae'r timau'n gweithio'n galed i sicrhau bod IPFRs yn cael eu hystyried mewn modd amserol a chyson a bod y penderfyniadau a wneir yn deg ac yn dryloyw. Amlygir y canlynol yn yr adroddiad:
Diffinnir IPFR fel 'cais i fwrdd iechyd neu'r Cydbwyllgor Comisiynu i ariannu gofal iechyd y GIG ar gyfer claf unigol y mae ei anghenion y tu allan i'r ystod o wasanaethau a thriniaethau y mae bwrdd iechyd wedi trefnu i'w darparu fel mater o drefn'.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth IPFR yng Nghymru ar gael ar wefan AWTTC.
Meddai'r Athro James Coulson, Cyfarwyddwr Clinigol, AWTTC: “Fel Cadeirydd y broses Sicrhau Ansawdd IPFR rwyf wedi fy nghalonogi i weld gwelliannau parhaus yn y broses ymgeisio ar lefel leol…. Mae’n wych gweld mentrau paneli lleol i ddatblygu a gwella darpariaeth gwasanaeth IPFR a dymunwn lwyddiant parhaus i’r holl baneli yng Nghymru yn y flwyddyn i ddod.”
Yn 2023-2024, fe wnaeth byrddau iechyd yng Nghymru recriwtio a hyfforddi pum aelod newydd o’r panel ar y cyd. Mae sawl panel yn dal i ystyried recriwtio aelodau newydd neu ddirprwy aelodau.
I gael gwybodaeth am ddod yn aelod lleyg ewch i wefan AWTTC.
I gael gwybodaeth am swyddi gwag paneli ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cysylltwch â thîm IPFR eich bwrdd iechyd lleol.