Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn cyflwyno gwaith yng nghyfarfod blynyddol HTAi yn Seville

Gorffennaf 18

Bu cydweithwyr o Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn mynychu ac yn cyflwyno eu gwaith yng Nghyfarfod Blynyddol Asesiad Technoleg Iechyd Rhyngwladol (HTAi) eleni.

Mae’r Cyfarfod Blynyddol yn cefnogi cenhadaeth HTAi i hyrwyddo datblygiad, dealltwriaeth a’r defnydd o asesiad technoleg iechyd (HTA) ledled y byd, fel ffordd o feithrin arloesedd a’r defnydd effeithiol o adnoddau ym maes gofal iechyd.

Mynychodd dros 900 o weithwyr proffesiynol HTA y cyfarfod eleni, o dros 60 o wledydd, am ddau ddiwrnod o weithdai a thri diwrnod o gyflwyniadau. Roedd yn gyfle gwych i glywed am y datblygiadau diweddaraf, rhannu profiadau a gwneud cysylltiadau ag eraill sy’n gweithio ym maes HTA. Cyflwynodd AWTTC dri phoster:

Mae rhagor o wybodaeth am Gyfarfod Blynyddol HTAi 2024 a manylion cyfarfod y flwyddyn nesaf ar gael ar wefan HTAi: https://htai.org/annual-meetings/

 
Dilynwch AWTTC: