Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn cyflwyno diogelwch meddyginiaethau i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd

24 Medi 2024

Bu staff o Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn mwynhau wythnos o ymgysylltu â’r cyhoedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd rhwng 3 a 10 Awst.

Gwnaethom gyfarfod â llawer o bobl a dweud wrthynt am ein gwaith yn cefnogi defnydd diogel a’r defnydd gorau o feddyginiaethau ac yn esbonio sut y gall aelodau’r cyhoedd, cleifion, grwpiau cymorth i gleifion, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gymryd rhan.

Bu cydweithwyr o Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd adrodd am adweithiau niweidiol a amheuir i feddyginiaethau drwy’r Cynllun Cerdyn Melyn.

Buom hefyd yn hyrwyddo ymgyrch Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd, sydd â’r nod o helpu pawb i gael y budd mwyaf o’u meddyginiaethau, ac sy’n cynghori pobl ar sut i gael gwared ar hen feddyginiaethau diangen, neu sydd wedi dyddio, yn ddiogel.

Cynhaliodd cydweithwyr o’r Ganolfan Gwybodaeth Genedlaethol am Wenwynau sesiwn ryngweithiol i blant a theuluoedd yn tynnu sylw at yr eitemau cartref sy’n ddiogel a’r rhai a all fod yn wenwynig neu’n beryglus.

 
 

Roedd ein stondin yn brysur gydag artistiaid ifanc a fu’n mwynhau cystadleuaeth lliwio i ennill tedi AWTTC. Roedd pawb yn mwynhau wrth ddysgu rhagor am ddiogelwch meddyginiaethau.

Dilynwch AWTTC: