Mae AWTTC yn cydweithio â ScriptSwitch i sicrhau bod negeseuon presgripsiynu allweddol Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn weladwy i bresgripsiynwyr yng Nghymru.
Bydd negeseuon yn cefnogi gwaith AWMSG ac yn helpu practisau a byrddau iechyd i symud tuag at drothwyon y Dangosydd Presgripsiynu Cenedlaethol, yn ogystal â chefnogi diogelwch ac effeithlonrwydd. Bydd negeseuon cenedlaethol clir, cyson a seiliedig ar dystiolaeth yn hyrwyddo presgripsiynu diogel ac effeithiol ac yn arbed ar ddyblygu ymdrech gan fyrddau iechyd.
Yn y set gyntaf o integriadau ScriptSwitch, mae AWTTC wedi gweithio i roi’r dewis i fyrddau iechyd fewngludo negeseuon sy’n cefnogi’r fenter “ Gwerth Isel ar gyfer Presgripsiynu yn GIG Cymru” i’w proffil, i’w defnyddio mewn practisau meddygon teulu lleol.
Yn y dyfodol, mae AWTTC yn bwriadu datblygu negeseuon pellach a newid argymhellion i gefnogi gwaith AWMSG. Cysylltwch â ni yn awttc@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.