Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotig 2025

30 Mehefin 2025

Gwnaeth Gwobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotig 2025, rhan o ymgyrch barhaus Gwarcheidwaid Gwrthfiotig dan arweiniad Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, ddathlu cyfraniadau rhagorol o bob cwr o'r DU a ledled y byd wrth fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR). Darparodd y digwyddiad blatfform i rannu dysgu ac arddangos ymdrechion arloesol gyda'r nod o leihau defnydd diangen o wrthfiotigau. Roedd AWTTC yn falch o gael eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer dau brosiect, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i wella stiwardiaeth gwrthfiotigau yng Nghymru.

Yn y categori Rhagnodi a Stiwardiaeth, cyflwynodd Rachel Jonas boster yn tynnu sylw at ddatblygu canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer dad-labelu alergedd i benisilin ymhlith oedolion mewn gofal eilaidd. Nod y canllawiau yw cefnogi arfer gorau wrth nodi a chael gwared ar labeli alergedd penisilin anghywir ymhlith oedolion nad ydynt wedi profi adwaith gorsensitifrwydd gwirioneddol.

Yn y categori Arloesi a Thechnoleg, arweiniodd Shaila Ahmed brosiect a oedd yn canolbwyntio ar lynu wrth hydoedd cyrsiau gwrthficrobaidd priodol. Datblygodd y tîm negeseuon hyd cwrs cenedlaethol gan ddefnyddio ScriptSwitch, teclyn cefnogi penderfyniadau rhagnodi a ddefnyddir mewn gofal sylfaenol. Mae'r negeseuon hyn wedi'u cynllunio i leihau amlygiad diangen i wrthfacteria a helpu i frwydro yn erbyn AMR trwy hyrwyddo'r cyrsiau triniaeth byrraf effeithiol.

Wedi'u datblygu mewn cydweithrediad â chydweithwyr GIG Cymru, mae'r ddau gyflwyniad yn tynnu sylw at gyfraniad parhaus AWTTC at wella ansawdd ar draws y system gofal iechyd. Roedd y digwyddiad hefyd yn achlysur balch i'r tîm ehangach o Gymru, gyda nifer o gydweithwyr o bob cwr o Gymru yn cael eu cydnabod am eu gwaith effeithiol. Rhoddodd gyfle gwerthfawr i ymgysylltu â’r Prif Swyddog Meddygol newydd ei phenodi i Gymru, yr Athro Isabel Oliver.

Cynigiodd y digwyddiad blatfform gwerthfawr ar gyfer dysgu, rhannu arferion gorau, a chysylltu ag eraill sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio gwrthfiotigau yn briodol. Mae AWTTC yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi stiwardiaeth gwrthficrobaidd trwy ganllawiau, tystiolaeth a chydweithio, gan sicrhau cynnydd parhaus yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Dilynwch AWTTC: