Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn arwyddo Adduned Cynhwysiant a Lles y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod AWTTC wedi arwyddo Adduned Cynhwysiant a Lles y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

Nod yr adduned yw cefnogi’r proffesiwn fferylliaeth i fod yn fwy cynhwysol, a hefyd hyrwyddo iechyd a lles meddyliol cadarnhaol yn y gweithle. Trwy ymrwymo i hyn byddwn yn cefnogi’r proffesiwn fferylliaeth i ddarparu arfer proffesiynol fferylliaeth gynhwysol, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd yn y cymunedau amrywiol yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt.

Mae’r AWTTC a AWMSG yn dimau amlddisgyblaethol o arbenigwyr medrus iawn sy’n cynnwys ffarmacolegwyr, economyddion iechyd, clinigwyr y GIG, arbenigwyr TG, data a gweinyddol a gwyddonwyr, yn ogystal â fferyllwyr, mae gan bob un o’r unigolion hyn flynyddoedd o brofiad ac mae iddynt gynrychiolaeth ddaearyddol eang. Felly, mae’r adduned hon yn dangos ein hymroddiad a’n cefnogaeth nid yn unig i’n fferyllwyr, ond i’n gweithlu cyfoethog ac amrywiol.

Mae 10 pwynt gwahanol wedi’u cynnwys yn yr adduned, pob un yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol a lles yn y gweithle.

Rydym yn addunedu i wneud y canlynol:

  • Creu diwylliant cynhwysol o berthyn drwy gofleidio a dathlu amrywiaeth ein pobl a sicrhau bod unigolion yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u bod yn gallu bod yn hwy eu hunain yn y gwaith.
  • Caniatáu ac annog sgyrsiau agored a gonest ynglŷn â chynhwysiant, amrywiaeth a lles.
  • Creu cyfleoedd i ddysgu am amrywiaeth y timau rydym yn gweithio â nhw, y bobl rydym yn eu gwasanaethu a galluogi mynediad at fodelau rôl amrywiol sy’n gynrychioliadol o’r proffesiwn.
  • Bod â dim goddefgarwch tuag at unrhyw fath o wahaniaethu, bwlio nac aflonyddu a galluogi ein pobl i fynegi pryderon o’r fath heb fod ofn y bydd canlyniadau i hynny.
  • Hyrwyddo a gwreiddio cynhwysiant ac amrywiaeth ar bob lefel a mireinio sut rydym yn gweithredu, recriwtio a datblygu ein pobl drwy’r sefydliad yn gyfan.
  • Gweithio tuag at gasglu data Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer ein gweithlu.
  • Sicrhau bod ein harweinyddiaeth yn adlewyrchu amrywiaeth y proffesiwn a’r cymunedau a wasanaethir gennym.
  • Gofalu am les ein holl bobl yn y gwaith a grymuso pobl i ofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain.
  • Ymrwymo i ddarparu cydbwysedd bywyd-gwaith iach i’n pobl drwy eu hannog i gymryd eu cyfnodau egwyl yn llawn ac ystyried dewisiadau gweithio hyblyg fel sy’n briodol.
  • Darparu ac arwyddbostio i gefnogaeth lles fel bod ein pobl yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael tra’n gwella hyder a lleihau unrhyw stigma sy’n gysylltiedig â chyrchu cymorth.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Adduned Cynhwysiant a Lles, ewch i https://www.rpharms.com/pledge

Dilynwch AWTTC: