Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC wedi'i enwebu ar gyfer Gwobr Canser Moondance

Roedd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) wrth ei bodd bod proses Meddyginiaethau Cymru’n Un (OW) wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau mawreddog Canser Moondance.

Mae Gwobrau Canser Moondance, yr unig wobrau yng Nghymru sy’n benodol i ganser, yn dathlu ac yn tynnu sylw at unigolion a thimau ar draws GIG Cymru a’i bartneriaid sy’n darparu, yn arwain ac yn arloesi ym maes gwasanaethau canser.

Mae proses OW AWTTC yn asesu meddyginiaethau nad ydynt ar gael fel mater o drefn yng Nghymru ar gyfer grwpiau penodol o gleifion nad yw eu hanghenion clinigol yn cael eu diwallu gan y triniaethau sydd ar gael. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, gwneir argymhelliad ynghylch a ddylid sicrhau bod y feddyginiaeth ar gael i bob claf sy’n bodloni’r meini prawf triniaeth. Mae tua hanner holl argymhellion OW ar gyfer meddyginiaethau canser ac mae cleifion yng Nghymru wedi bod ymhlith y cyntaf yn y byd i gael mynediad rheolaidd at dostarlimab i drin math o ganser y rectwm ac, yn y DU, at abiraterone ar gyfer math o ganser y prostad.

Cyrhaeddodd proses OW y rhestr fer ar gyfer y Wobr Cyflawniad Gweithio Gyda’n Gilydd i gydnabod bod AWTTC yn gweithio gyda chlinigwyr a grwpiau cleifion i nodi ac asesu meddyginiaethau addas ar gyfer trin canser.

Roedd cydweithwyr o AWTTC sy’n gweithio ar y broses OW yn bresennol yn y noson ddathlu a gwobrwyo ar 13 Mehefin yn Depot yng Nghaerdydd. Er bod yr enillydd cyffredinol yn dîm haeddiannol iawn o BIP Bae Abertawe, roedd AWTTC yn falch iawn o gyrraedd y rhestr fer yn enwedig o ystyried bod dros 100 o enwebiadau wedi’u cyflwyno.

Mae rhagor am Fenter Canser Moondance, gan gynnwys rhestr o enillwyr y Gwobrau, ar gael ar eu gwefan: https://moondance-cancer.wales/awards

Mae rhagor am broses Meddyginiaethau Cymru’n Un AWTTC ar gael yma: https://awttc.nhs.wales/one-wales

 

Dilynwch AWTTC: