Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC ac AWMSG yn lansio gwefan unedig newydd

Yn flaenorol, bu dwy wefan ar wahân ar gyfer AWMSG ac AWTTC. Un canfyddiad o adolygiad annibynnol o AWMSG yn 2019 oedd nad oedd pobl yn aml yn ymwybodol o'r gwahaniaeth rhwng AWMSG ac AWTTC gyda dryswch ynghylch rolau a chyfrifoldebau'r naill a’r llall. Roedd hyn yn rhwystr i gynulleidfaoedd sy'n ceisio llywio dwy wefan ar wahân i ddod o hyd i wybodaeth ac arweiniad.  Felly, penderfynwyd creu gwefan unedig newydd ar gyfer y ddwy er mwyn helpu i gyflawni'r amcan a rennir gan AWMSG ac AWTTC, sef 'Cefnogi presgripsiynu darbodus i gael y canlyniadau gorau o feddyginiaethau i gleifion yng Nghymru.

Manteision gwefan newydd, unedig yw:

  • Y cyfle i ddod â gwybodaeth o'r ddwy wefan yn un, gan arwain at well profiad i ddefnyddwyr ac i gyflawni disgwyliadau defnyddwyr.
  • Mae'n caniatáu i'r wefan gael ei strwythuro mewn ffordd sy'n fwy cyfeillgar i'r defnyddiwr ac yn haws ei llywio.
  • Gan fod y wefan newydd wedi'i hadeiladu ar blatfform gwe GIG Cymru, mae'n rhoi mwy o hyblygrwydd a gwell ymarferoldeb gyda'r sicrwydd ychwanegol bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn gofalu am elfennau diogelwch, uwchraddio, datrys problemau a chynnal.
  • Mae'n caniatáu i'r wefan newydd gydymffurfio'n llawn â safonau’r Gymraeg a hygyrchedd.

Mae AWTTC ac AWMSG wedi sicrhau bod anghenion eu cynulleidfaoedd amrywiol yn cael eu hystyried, a bod gwahanol feysydd y portffolios yn cael yr un amlygrwydd. Cymerwyd gofal i sicrhau, lle bo'n briodol, bod y defnydd o enwau sefydliadol sy'n gysylltiedig â meysydd gwaith penodol yn parhau, a bod eu hunaniaeth unigryw yn cael ei chadw.

Gweithiodd y sefydliad gyda Box UK, ymgynghoriaeth yng Nghaerdydd sy'n arbenigo mewn dylunio, datblygu a darparu llwyfannau digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae gan Box UK hanes profedig o gyflawni prosiectau ar gyfer GIG Cymru, yn enwedig gyda DHCW wrth ddatblygu platfform gwe newydd GIG Cymru, yn ogystal â'u gwaith gyda chleientiaid proffil uchel eraill megis Llywodraeth Cymru a'r Coleg Nyrsio Brenhinol. Gwnaeth Box UK hefyd ddylunio ac adeiladu’r wefan newydd yn seiliedig ar brofion defnyddwyr ar wahanol gamau, ac o ganlyniad i hyn gallai AWTTC ac AWMSG gael barn eu cynulleidfa ar strwythur y wefan.

Dywedodd Dr Clare Elliott, uwch wyddonydd yn AWTTC ac arweinydd technegol y wefan newydd, “Roeddem yn gwybod y byddai'n her uno dwy wefan yn un a bodloni gofynion ein defnyddwyr sy'n amrywio o'n cydweithwyr yn GIG Cymru, gan gynnwys clinigwyr, fferyllwyr, nyrsys a chynllunwyr, i'r diwydiant fferylliaeth, Llywodraeth Cymru, sefydliadau partner fel NICE a'r MHRA, y byd academaidd ac, efallai'n bwysicaf oll, sefydliadau cleifion, cleifion unigol a'r cyhoedd yng Nghymru.

“Drwy weithio gyda Box UK a chynnwys ein defnyddwyr terfynol i’n helpu i strwythuro'r wefan, mae gwefan newydd AWTTC yn ein galluogi i rannu gwaith ac allbynnau AWTTC ac AWMSG mewn ffordd sy'n sicrhau bod ein cynulleidfa yn gallu cael mynediad hawdd i'r hyn sydd ei angen arnynt.

“Byddwn yn parhau i wneud gwelliannau i'r wefan ac yn gofyn i ddefnyddwyr roi eu barn a'u hawgrymiadau drwy arolwg ar-lein ar y wefan newydd.”

Dilynwch AWTTC: