Ym mis Rhagfyr 2020 cymeradwyodd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) broses newydd ar gyfer arfarnu meddyginiaethau y mae eu trwydded wedi’i hymestyn i gynnwys defnydd gyda phlant a phobl ifanc dan 18 oed. Rhagwelir y bydd y broses sydd wedi’i symleiddio yn arwain at well mynediad at feddyginiaethau trwyddedig ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.
O dan y broses newydd bydd AWMSG yn rhoi ystyriaeth i feddyginiaethau sy’n bodloni’r holl feini prawf canlynol:
Pan fodlonir y meini prawf, bydd AWTTC yn paratoi asesiad ac argymhellid drafft ar gyfer ei ystyried gan AWMSG. Ni chaiff meddyginiaethau a arfarnir o dan y broses newydd eu hystyried gan y Grŵp Meddyginiaethau Newydd. Bydd y newid hwn a newidiadau eraill i’r broses yn golygu ei bod yn debygol y ceir argymhelliad yn gyflymach nag ar gyfer cyflwyniadau llawn neu gyfyngedig. Gellir gweld manylion pellach y broses newydd ar wefan AWMSG.
Cafodd y feddyginiaeth gyntaf i fodloni’r meini prawf ar gyfer y broses newydd ei hystyried yng nghyfarfod AWMSG ar 10 Mawrth 2021. Argymhellodd AWMSG lurasidone (Latuda®) ar gyfer trin sgitsoffrenia ymhlith pobl ifanc rhwng 13 a 17 oed. Mae lurasidone wedi ei argymell ers 2015 ar gyfer trin sgitsoffrenia ymhlith oedolion. Mae’r cyngor mwyaf diweddar gan AWMSG wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, gan ymestyn defnydd lurasidone i boblogaeth iau.