Cafwyd heriau newydd yn sgil y pandemig coronafeirws, ac o ganlyniad addasodd AWMSG i ffordd newydd o weithio a manteisio’n naturiol ar gyfarfodydd rhithwir.
Ar 15 Rhagfyr 2020 rhoddodd y tîm drosolwg o AWMSG yn y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau Diwrnod Agored rhithwir. Mynychodd dros 40 o weithwyr proffesiynol y diwydiant fferyllol y digwyddiad, a agorwyd gan Gadeirydd AWMSG, a chawsant gyfle i gyfarfod â’r tîm a dysgu rhagor am y rhaglen Diwrnodau Agored ar gyfer 2021.
Yn amrywio o Fynediad at Feddyginiaethau a Sganio’r Gorwel i Feddyginiaethau Am Ddim, rhoddodd y digwyddiad fewnwelediad i ddarnau allweddol o waith, gan gynnwys cysylltiadau a phrosesau sy’n berthnasol i’r diwydiant fferyllol.
Cafodd y digwyddiad dderbyniad da iawn gan y diwydiant, gyda’r mynychwyr yn cael mewnwelediadau defnyddiol i AWMSG a deialog agored gydag aelodau’r tîm.
Caiff rhaglen lawn Diwrnodau Agored 2021 ei chyhoeddi ar ddydd Gwener 12 Chwefror 2021 a bydd pynciau digwyddiadau’r dyfodol yn cynnwys; Mynediad i’r Farchnad yng Nghymru, Ymgysylltu Cynnar a Threfniadau Masnachol, Proses Arfarnu AWMSG a’r Fframwaith Optimeiddio Meddyginiaethau.