Yn adroddiad blynyddol newydd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), gallwch ddarllen trosolwg o 2020 – 2021 o ran sut y gwnaeth AWMSG a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) ymateb i heriau’r pandemig a chefnogi presgripisiynu meddyginiaethau diogel a darbodus.
Ar ddechrau Ebrill 2020, roedd pandemig COVID-19 yn gwaethygu a gwnaed y penderfyniad i ddiddymu busnes arferol AWMSG a’i is-grwpiau, fel bod aelodau o’r Pwyllgor, gyda nifer ohonynt yn staff y rheng flaen, yn gallu canolbwyntio ar ofalu am gleifion a rhannu negeseuon allweddol.
Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o gyflawniadau’r Grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf, er gwaetha’r anawsterau ac, wrth i ni ddechrau gweld y cyfyngiadau’n llacio a, gobeithio, bywyd yn dychwelyd at normalrwydd, bydd AWMSG yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru, cleifion a chydweithwyr y GIG yn y cyfnod adfer.
Cafodd yr Athro Ceri Phillips rôl newydd fel Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a daeth ei gyfnod fel Cadeirydd AWMSG i ben ym mis Mawrth 2021.
Meddai, “Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint gweld AWMSG yn ‘dyfod i oed’ ym mis Hydref 2020 a gallu rhannu rhai o’i lwyddiannau dros y 18 mlynedd, fel aelod o’r Pwyllgor ac fel Cadeirydd. Byddaf yn parhau i ddilyn cynnydd y grŵp wrth iddo barhau i aeddfedu a chwarae rôl gynyddol bwysig yng nghyfnod adfer y GIG yn ystod y blynyddoedd nesaf.”