Mae AWTTC wedi cyhoeddi adroddiad sy’n amlinellu sut mae AWMSG ac AWTTC yn gweithio i gyflawni’r 7 nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Mae'r adroddiad yn amlinellu sut mae gwaith ac amcanion AWMSG yn berthnasol i bob un o'r 7 nod. Mae'n amlygu gwaith blaenorol a gwaith sy'n mynd rhagddo, yn ogystal â gwaith newydd a gynllunnir a chamau gweithredu arfaethedig.
Cymeradwyodd AWMSG yr adroddiad yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2022.