29 Awst 2025
Mynychodd dros 150 o gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Gymru y Diwrnod Arfer Gorau blynyddol, a gynhaliwyd ar y cyd eleni gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) a Chanolfan Cerdyn Melyn (YCC) Cymru.
Canolbwyntiodd digwyddiad eleni, a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 2il Gorffennaf 2025, ar thema Diogelwch Meddyginiaethau ac roedd yn cynnwys rhaglen lawn o sgyrsiau arbenigol, cystadleuaeth poster, a sesiynau grŵp, pob un â'r nod o wella arferion rhagnodi ar draws GIG Cymru.
Croesawodd Dr Laurence Gray, Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi a Meddyg Ymgynghorol mewn Ffarmacoleg Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro, y cynrychiolwyr cyn cyflwyno'r siaradwr cyntaf.
Yn yr araith agoriadol, gofynnodd yr Athro Emeritws Phil Routledge o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, a chyn Gyfarwyddwr Clinigol AWTTC, gwestiwn canolog: “Diogelwch meddyginiaethau: Pwy sy’n gyfrifol?” Gosododd ei araith y naws ar gyfer trafodaethau'r diwrnod, gan bwysleisio atebolrwydd a rennir wrth ddefnyddio meddyginiaethau'n ddiogel.
Yn dilyn hyn, archwiliodd Dr Helen Cordy, Meddyg Ymgynghorol mewn Patholeg Gemegol gyda Meddygaeth Metabolaidd yn BIP Caerdydd a'r Fro, y pryderon diogelwch sy'n gysylltiedig â'r defnydd cynyddol o feddyginiaethau colli pwysau chwistrelladwy. Tynnodd ei sgwrs sylw at yr angen am fonitro gofalus a goruchwyliaeth glinigol gadarn.
“Mae colli pwysau drwy GLP wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’w ddeall.”
Fferyllydd arennol, BIP Bae Abertawe
Nesaf, ymunodd Dr Emma Morrison, Meddyg Ymgynghorol mewn Ffarmacoleg Glinigol o Ysbyty Brenhinol Caeredin, â'r cyfarfod drwy Teams a chyd-gyflwynodd sesiwn gyda Dr Laurence Gray ar risgiau rhagnodi propranolol, gan eirioli dros ddulliau mwy gofalus o’i ddefnyddio, sy’n canolbwyntio ar y claf.
“Roeddwn i’n teimlo bod y propranolol yn ddiddorol iawn – roedd hynny’n rhywbeth nad oeddwn i’n ymwybodol ohono ond mae ar fy radar nawr.”
Fferyllydd, BIP Cwm Taf Morgannwg
Daeth sesiynau'r bore i ben gyda chyflwyniad gan Lelly Oboh, Fferyllydd Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Guy's a St Thomas' ac Arweinydd Gor-ragnodi yn Ne-ddwyrain Llundain, ar “amlgyffuriaeth broblematig”, gan annog newid mewn meddylfryd i gefnogi cleifion â chyflyrau hirdymor lluosog.
“Roedd sgwrs Lelly Oboh yn anhygoel.”
Fferyllydd arennol, BIP Bae Abertawe
“Roeddwn i’n meddwl y gallai pawb gymryd rhai negeseuon ohono a’u rhoi ar waith.”
Arweinydd Optimeiddio Meddyginiaethau ar gyfer Gofal Sylfaenol, BIP Caerdydd a'r Fro
“Roedd y sgwrs am amlgyffuriaeth yn wych. Mae'n ddiddorol cael gwahanol agweddau.”
Uwch Fferyllydd, BIP Cwm Taf Morgannwg
Yn ystod y prynhawn cynhaliwyd cystadleuaeth poster, a feirniadwyd gan yr Athro Routledge a Mrs Fiona Woods, cyn Bennaeth YCC Cymru, a oedd yn arddangos prosiectau ac ymchwil arloesol o bob rhan o'r gymuned rhagnodi. Roedd gan y beirniaid y dasg heriol o ddewis dim ond tri enillydd o'r 21 cyflwyniad rhagorol a dderbyniwyd. Llongyfarchiadau i enillwyr y gwobrau canlynol:
Safle 1af: Glynu wrth brofion DPYD – Canolfan Ganser Felindre – Georgia Adams, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
2il safle: UTI Dydd Gwener: Adolygiad o broffylacsis gwrthfiotig wrth reoli haint rheolaidd y llwybr wrinol mewn gofal sylfaenol – Avril Tucker, BIP Cwm Taf Morganwg
3ydd safle: Poen cronig: Clinig lleihau niwed dan arweiniad fferylliaeth mewn ymarfer cyffredinol – Dixita Leigh, BIP Cwm Taf Morgannwg
Ar ôl cinio, cymerodd y cynrychiolwyr ran mewn cyfres o sesiynau grŵp yn ymdrin ag ystod eang o strategaethau ymarferol i wella diogelwch meddyginiaethau:
Daeth Dr Gray â'r digwyddiad i ben drwy bwysleisio pwysigrwydd cydweithio, datblygiad proffesiynol parhaus, ac arloesedd wrth wneud rhagnodi’n fwy diogel i bob claf yng Nghymru.
Roedd yr adborth, ar y diwrnod ac wedi hynny, yn hynod gadarnhaol, gyda’r cynrychiolwyr yn canmol ansawdd y siaradwyr a’r sesiynau addysgiadol, diddorol a chraff. Roedd y mynychwyr yn gwerthfawrogi amrywiaeth y pynciau perthnasol a drafodwyd a'r cyfle i rwydweithio, ac yn canmol strwythur trefnus, amrywiol a diddorol y diwrnod.
“Mae’r safon yn uchel iawn ac yn berthnasol i ymarfer.”
Athro Cyswllt Fferylliaeth a Cardiolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus, BIP Bae Abertawe
“Defnyddiol iawn – mae cwrdd â chydweithwyr o fyrddau iechyd eraill a’r siaradwyr wedi bod yn ddiddorol iawn.”
Fferyllydd Mynediad at Feddyginiaethau, BIP Caerdydd a'r Fro
“Mae’r holl siaradwyr wedi bod yn dda iawn ac mor berthnasol. Mae’n gymysgedd da o bobl ac mae wedi bod yn gyfle rhwydweithio gwych i roi wynebau i enwau. Does dim ots beth yw eich swydd na pha sector rydych chi ynddo – rydyn ni i gyd yn gweld yr un problemau.”
Swyddog Diogelwch Meddyginiaethau, BIP Bae Abertawe
“Mae heddiw wedi bod yn wych ac mae angen mwy o sesiynau fel hyn arnom. Byddaf yn ôl y flwyddyn nesaf.”
Ymarferydd Nyrsio Uwch, BIP Caerdydd a'r Fro
Os hoffech ddysgu mwy, mae recordiadau a sleidiau o'r sesiynau ar gael i'w gweld yn: https://cttcg.gig.cymru/newyddion-a-cyfarfodydd/digwyddiadau/diwrnod-arfer-gorau-2-gorffennaf-2025/.
Hoffai'r trefnwyr ddiolch i'r holl gyfranwyr a'r mynychwyr a wnaeth ddigwyddiad eleni yn llwyddiant.
Bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf yn dychwelyd i Ganolfan yr Holl Genhedloedd ym mis Gorffennaf. Cadwch lygad ar ein gwefan am wybodaeth am sut i gofrestru.