Neidio i'r prif gynnwy

Animeiddiad newydd AWTTC sydd â'r nod o wella rhagnodi, defnyddio a gwaredu anadlyddion yng Nghymru

22 Mai 2024

Mae'n rhaid i anadlyddion sydd wedi'u defnyddio, nad oes eu heisiau neu sydd wedi dyddio fynd yn ôl i fferylliaeth gymunedol i'w gwaredu'n ddiogel. Mae llawer yn mynd i safleoedd tirlenwi. Nid dyma’r lle cywir iddynt, ac nid yw'n dda i'r amgylchedd chwaith.

Yng Nghymru mae gennym strategaeth genedlaethol i wella rhagnodi, defnyddio a gwaredu anadlyddion. I gefnogi’r strategaeth hon, bu AWTTC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Asthma and Lung UK a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i gynhyrchu ffilm wybodaeth fer i gleifion yn egluro sut y bydd rheoli cyflwr yr ysgyfaint gan gynnwys asthma a COPD yn gywir nid yn unig yn helpu pobl i deimlo’n well, ond bydd hefyd yn helpu'r amgylchedd.

Mae'r animeiddiad, a fydd yn cael ei ddangos mewn lleoliadau Cynradd ac Uwchradd yng Nghymru, yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac yn annog pobl i ofyn am adolygiad anadlol blynyddol.

 

 

Mae adolygiad anadlol blynyddol yn rhoi cyfle i bobl drafod eu cynllun gweithredu anadlol. Byddant yn cael gwybod am opsiynau anadlyddion newydd a sut i newid i un yn ddiogel. Mae yna lawer o opsiynau anadlyddion a all fod yn fwy addas, gan gynnwys anadlyddion carbon isel nad ydynt yn cynnwys nwyon a all niweidio'r amgylchedd.

Mae’r GIG yng Nghymru yn gwario mwy na £74 miliwn ar anadlyddion bob blwyddyn, felly mae’n bwysig bod pobl yn archebu’r anadlyddion sydd eu hangen arnynt yn unig. Mae anadlyddion gwastraff nid yn unig yn costio arian ond maent hefyd yn niweidiol i'r amgylchedd.

Cofiwch - peidiwch â thaflu unrhyw anadlyddion sydd wedi'u defnyddio neu nad oes eu heisiau i mewn i sbwriel eich cartref.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth siaradwch â meddyg, nyrs neu fferyllydd neu cofrestrwch i’r yb Iechyd neu ffoniwch linell gymorth Asthma and Lung UK ar 0300 22 25 800 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm neu ar-lein ar GIG 111 Cymru - Hafan (wales.nhs.uk)

Dilynwch AWTTC: