1 Rhagfyr 2023
Mae Adroddiad Blynyddol Canolfan Cerdyn Melyn Cymru ar gyfer 2022/23 wedi’i gyhoeddi ac mae bellach ar gael i’w ddarllen ar-lein.
Mae’r adroddiad yn manylu ar dueddiadau o ran adroddiadau Cerdyn Melyn ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys cyfanswm yr adroddiadau, adroddiadau fesul Bwrdd Iechyd, adroddiadau yn ôl proffesiwn a’r 10 meddyginiaeth yr adroddwyd amdanynt fwyaf.
Mae’n bleser gan YCC Cymru ddangos cynnydd yng nghyfanswm nifer yr adroddiadau Cerdyn Melyn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’n werth nodi mai aelodau o’r cyhoedd oedd yn cynrychioli’r grŵp â’r nifer uchaf o adroddiadau, gan oddiweddyd meddygon teulu am y tro cyntaf.
Mae’r adroddiad hefyd yn manylu ar y gweithgareddau addysgol a hyrwyddo a gyflawnwyd gan Dîm Rheoli a Hyrwyddwyr YCC Cymru, yn ogystal â chyhoeddiadau newydd a strategaeth YCC Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod. Hoffai YCC Cymru ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus dros y flwyddyn ddiwethaf ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ein strategaeth a gweithio ar fentrau newydd yn 2024.
Darllenwch yr adroddiad yma.