Mae gwenwyno syanid yn gymharol brin, ond gall ddigwydd ar ôl dod i gysylltiad â chynhyrchion hylosgi, deunyddiau peiriannau, cemegau diwydiannol, a thrwy ei ryddhau'n fwriadol. Gall fod yn anodd ac yn gymhleth adnabod a rheoli gwenwyndra syanid mewn lleoliad clinigol. O ganlyniad, cynhaliodd y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS) adolygiad cynhwysfawr yn ddiweddar o achosion o wenwyno syanid a adroddwyd i’r NPIS dros y 12 mlynedd diwethaf (2009-2018), er mwyn cael gwell dealltwriaeth o wenwyndra syanid a sut i'w drin.
Mae syanid yn achosi gwenwyndra trwy amharu ar allu celloedd i ddefnyddio ocsigen. Mae hyn yn arwain at anadlu anaerobig a chynhyrchu lactad, sy’n effeithio ar gydbwysedd asid-sylfaen y corff ac yn achosi i'r gwaed ddod yn fwy asidig. Gall y corff droi'r syanid yn thiosyanad, sydd wedyn yn cael ei ysgarthu, ond efallai na fydd y broses hon yn ddigon cyflym i atal syanid rhag cael effaith wenwynig.
Nododd adolygiad NPIS o achosion posibl o ddod i gysylltiad â syanid fod 1252 o achosion wedi’u hadrodd i’r NPIS, sef y nifer fwyaf o achosion o wenwyno syanid yn y llenyddiaeth gyhoeddedig. O'r achosion hyn, roedd 14% yn blant (<5 oed), a 75% yn oedolion (>20 oed); roedd 57% yn ddynion; ac roedd 77% o’r achosion yn ddamweiniol. Ymhlith plant (<5 oed), roedd y mwyafrif wedi dod i gysylltiad â chynhyrchion peiriannau, ac ni chafodd y mwyafrif unrhyw symptomau neu ddim ond symptomau ysgafn. Roedd oedolion (>20 mlynedd) yn bennaf wedi dod i gysylltiad â chynhyrchion hylosgi (37%), wedi’i ddilyn gan gynhyrchion peiriannau (24%). Y rhai a ddaeth i gysylltiad â chynhyrchion hylosgi (399) a brofodd y symptomau mwyaf difrifol (28% o achosion), gan gynnwys nifer o farwolaethau (7% o achosion).
Gallai’r adolygiad gael gwell dealltwriaeth o ddifrifoldeb achosion o wenwyndra sy’n deillio o ddod i gysylltiad â syanid. Yn benodol, cadarnhaodd fod cysylltiad agos rhwng lefel y serwm lactad a difrifoldeb y gwenwyno, gyda lefel lactad >7.5 mmol/L yn gysylltiedig â gwenwyndra difrifol, a lefel lactad >11.0 mmol/L yn gysylltiedig â chanlyniad angheuol. Mae'r gwerthoedd hyn yn is na'r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol, ac felly byddant yn werthfawr o ran asesu'n well pryd y gallai fod angen gwrthwenwyn ar gleifion.
Yn gyffredinol, gwnaeth yr adolygiad helpu i egluro'r ffynonellau tebygol o ddod i gysylltiad â gwenwyn syanid a sut y gall clinigwyr asesu difrifoldeb achosion o wenwyno yn gyflym. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i lywio’r arweiniad clinigol a ddarperir gan NPIS i glinigwyr sy’n darparu triniaeth a bydd yn helpu i gefnogi canlyniadau gwell i gleifion.
I gael rhagor o wybodaeth am yr adolygiad, gweler y copi llawn o’r papur yn: