Daeth llu o siaradwyr, cynrychiolwyr a staff ynghyd i ddathlu 20 mlynedd o waith Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn darparu cyngor ar feddyginiaethau newydd eu trwyddedu gan sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad cyflym a diogel at feddyginiaethau newydd.
Mae gan y pwyllgor cynghori hwn sy’n rhan o Lywodraeth Cymru, a gefnogir gan Ganolfan Therapiwtig a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), gyfoeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol gan gynnwys meddygon ymgynghorol y GIG, gwyddonwyr, fferyllwyr, ffarmacolegwyr clinigol, meddygon teulu, economegwyr iechyd, cynrychiolwyr y diwydiant fferyllol ac aelodau lleyg sy’n cyfuno eu harbenigedd a’u gwybodaeth i gynghori Llywodraeth Cymru ar feddyginiaethau i’w defnyddio yn GIG Cymru.
Mae AWMSG yn gweithio i wella canlyniadau iechyd sy’n deillio o feddyginiaethau i gleifion, ynghyd â gwneud y defnydd gorau o feddyginiaethau a gwella canlyniadau iechyd yn sgil hynny. Yn ystod y dydd, clywsom am y mentrau sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd ledled y wlad i wella gofal cleifion a thynnwyd sylw at rôl bwysig AWMSG wrth ddatblygu canllawiau i sicrhau rhagnodi diogel ac effeithiol ar draws GIG Cymru.
Yn ystod y gynhadledd, clywodd y cynrychiolwyr gan ystod eang o siaradwyr a oedd yn gallu rhannu eu profiadau o weithio ar y cyd ag AWMSG ac amlygu’r effaith gadarnhaol y mae’r gwaith hwn yn ei chael. Agorodd Cadeirydd presennol AWMSG, yr Athro Iolo Doull, y gynhadledd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 17 Tachwedd drwy fyfyrio ar gyflawniadau'r ddau ddegawd diwethaf, sy'n cynnwys rhoi cyngor ar fwy na 420 o feddyginiaethau.
Gwnaeth Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, longyfarch y sefydliad ar eu pen-blwydd a chanmolodd y gwaith sy'n cael ei wneud i helpu i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael i gleifion Cymru.
Gwnaeth sylfaenydd AWMSG ac AWTTC, yr Athro Phil Routledge, gyflwyniad ar 'Effeithiolrwydd ac Effeithlonrwydd: 20 mlynedd o AWMSG' a phwysleisiodd ei angerdd dros y sefydliad.
Rhoddodd Meindert Boysen, Pennaeth Materion Rhyngwladol NICE, Dr June Raine, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Dr Richard Torbett, Prif Weithredwr ABPI a’r Athro Dyfrig Hughes , Cadeirydd y Grŵp Ffarmacogenomeg Cenedlaethol, gyflwyniadau craff ac ysgogol am eu gwaith a’u hymwneud ag AWMSG. Cafwyd araith ysbrydoledig ac angerddol gan Jermaine Harris a siaradodd yn y gynhadledd am effaith meddyginiaethau ar ei fab Fraizer a gafodd ddiagnosis o ffeibrosis systig pan oedd ychydig dros dair wythnos oed. Mae’r golffiwr brwd, sydd bellach yn saith oed, yn cymryd 50 tabled y dydd ar gyfer ei ‘arch bŵer’, fel y mae’n ei alw, i reoli’r cyflwr. Siaradodd Jermaine am ei werthfawrogiad i AWMSG, GIG Cymru, meddygon a gwyddonwyr - y gwneuthurwyr penderfyniadau sydd wedi ei gwneud hi’n bosibl i’w fab gael y driniaeth hon i ganiatáu iddo fyw bywyd normal.
Yn ystod y gynhadledd gwnaeth y staff hefyd gofio am eu cydweithiwr dawnus, hoffus, y mae mawr golled ar ei hôl, Nicola Wheatley. Gwnaeth Dr Laurence Gray, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol, dalu teyrnged ddiffuant a theimladwy i Nicola am ei chyflawniadau rhagorol a'i hymroddiad i Docsicoleg.
Cafodd gwaith AWMSG hefyd ei arddangos drwy bosteri gwybodaeth a fideos, ac roedd staff wrth law i ddangos mentrau newydd fel y dangosfwrdd anadlyddion sy’n helpu i leihau ôl-troed carbon anadlyddion yng Nghymru.
Gwnaeth Canolfan Cerdyn Melyn Cymru hefyd ddatgelu eu fideo animeiddiedig newydd yn cynnwys eu masgot Charlie, sy’n esbonio pam a sut i roi gwybod am sgil-effaith a amheuir i feddyginiaeth neu broblem gyda dyfais feddygol.
Cafodd bawb syrpréis hyfryd ar ddiwedd y gynhadledd gyda pherfformiad arbennig gan gôr Only Men Aloud, a ganodd emynau clasurol Cymreig gan gynnwys Calon Lân, Cwm Rhondda yn ogystal â’u fersiwn nhw o glasur yr Electric Light Orchestra, Mr Blue Sky.
Wrth i’r Athro Iolo Doull ddod â’r diwrnod i ben, roedd hefyd yn gyfle i edrych ymlaen at yr 20 mlynedd nesaf a pha waith y gellir ei gyflawni yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth am AWMSG ac AWTTC ewch i awttc.nhs.wales