Dim ond ychydig funudau a gymer i lenwi’r ffurflen ond collir yr ymatebion os byddwch yn llywio oddi wrth y ffurflen cyn gwasgu’r botwm ‘Cyflwyno’ ar y diwedd.
Gallwch roi cymaint o wybodaeth ag y dymunwch i ni ond peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol ar y ffurflen a allai gael ei defnyddio i’ch adnabod chi neu rywun arall (megis enwau llawn, dyddiadau geni, cyfeiriadau). Os byddwch yn cynnwys unrhyw fanylion personol, byddwn yn eu dileu cyn ein bod yn anfon eich cyflwyniad at aelodau’r pwyllgor.
NI fyddwn yn cyhoeddi eich ymateb ar y wefan hon neu yn y parth cyhoeddus. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni gan ddefnyddio’r ffurflen hon yn cael ei defnyddio dim ond ar gyfer arfarnu’r feddyginiaeth a nodir. Ni fyddwn yn ei defnyddio at unrhyw ddiben arall nac yn ei rhannu gydag unrhyw drydydd parti. Rydym yn casglu ac yn storio pob cyflwyniad yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data’y DU 1998 a Rheoliadad Cyffredinol ar Diogelu Data (GDPR) 2018 . Gweler ein Polisi Preifatrwydd neu cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os cewch anhawster i lenwi’r ffurflen cysylltwch â ni ac fe geisiwn eich helpu. Efallai y bydd ein hadran Cwestiynau Cyffredin hefyd yn ddefnyddiol, gweler ein tudalen Meddyginiaethau newydd sydd angen eich barn.