Mae’r Gronfa Triniaeth Newydd, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017, yn sicrhau bod gan gleifion ledled Cymru fynediad cyflymach at feddyginiaethau newydd.
Mae gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd 60 diwrnod i sicrhau bod meddyginiaeth sydd newydd ei hargymell ar gael ar gyfer ei phresgripsiynu. Er mwyn monitro cydymffurfedd â’r Gronfa Triniaeth Newydd, bydd byrddau iechyd yn riportio’n rheolaidd wrth Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha mor gyflym y maent yn rhoi meddyginiaethau newydd ar eu rhestrau presgripsiynu.
Adroddiadau blynyddol ar statws lyfr fformiwlâu meddyginiaethau a argymhellir ar gyfer eu defnyddio o fewn GIG Cymru gan NICE ac AWMSG gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC):
Mae adroddiadau blynyddol a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gael yma: New Treatment Fund prescribing list: annual reports | GOV.WALES (Saesneg yn unig)