Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae meddyginiaethau'n cael eu cymeradwyo i'w defnyddio yn GIG Cymru

Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad cyflym a theg at feddyginiaethau. Dyma'r prif ffyrdd y mae meddyginiaethau'n cael eu cymeradwyo i'w defnyddio yn GIG Cymru.


Asesiad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)

Mae'r rhan fwyaf o feddyginiaethau sydd newydd eu trwyddedu yn cael asesiad technoleg iechyd (HTA) gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) . Mae'r broses HTA yn ystyried yn ofalus y dystiolaeth glinigol, sy'n dangos pa mor dda y mae'r feddyginiaeth yn gweithio a pha mor ddiogel ydyw, a'r dystiolaeth cost-effeithiolrwydd, sy'n dangos pa mor dda y mae'n gweithio mewn perthynas â faint y mae'n ei gostio i'r GIG. Yna bydd NICE yn cyhoeddi canllawiau ynghylch a yw'r feddyginiaeth yn cael ei hargymell i'w defnyddio yn y GIG.

Mae canllawiau NICE yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu, pan fydd NICE yn argymell meddyginiaeth i'w defnyddio, y bydd cleifion sy'n cael eu trin gan GIG Cymru yn gallu ei chael yn ogystal â chleifion sy'n cael eu trin gan GIG Lloegr. Mae rhagor o wybodaeth am brosesau asesu NICE ar gael yn https://www.nice.org.uk/about/what-we-do/our-programmes/nice-guidance/nice-technology-appraisal-guidance

Mae'r Gronfa Triniaethau Newydd , a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017, yn sicrhau bod gan gleifion ledled Cymru fynediad cyflymach at feddyginiaethau newydd. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i fyrddau iechyd yng Nghymru a Phwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC) fel arfer sicrhau bod meddyginiaeth ar gael i'w rhagnodi o fewn 60 diwrnod i NICE gyhoeddi Canllawiau Drafft Terfynol sy'n argymell y feddyginiaeth i'w defnyddio. Mae AWTTC yn cyhoeddi adroddiadau ar statws fformiwlari meddyginiaethau a argymhellir i'w defnyddio o fewn GIG Cymru gan NICE ac AWMSG sydd ar gael o dudalen we adroddiadau statws fformiwlari'r Gronfa Triniaethau Newydd .


Asesiad gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG)

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn asesu meddyginiaethau i'w defnyddio yn GIG Cymru. Fel arfer, meddyginiaethau nad yw NICE wedi'u hasesu yw'r rhain (neu nad ydynt wedi'u dewis ar gyfer asesiad NICE yn y dyfodol) ond lle nodir angen clinigol clir neu fudd arall i GIG Cymru. Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn nodi meddyginiaethau trwyddedig a defnyddiau oddi ar y label o feddyginiaethau y mae'n debygol y bydd angen i AWMSG eu hasesu. Gwneir hyn trwy gasglu tystiolaeth yn uniongyrchol gan AWTTC, neu drwy gyflwyno tystiolaeth neu gais am asesiad gan randdeiliaid gan gynnwys: y diwydiant fferyllol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sefydliadau cleifion a sefydliadau comisiynu.

Mae gan Banel Craffu AWMSG gynrychiolaeth o GIG Cymru ac aelodau'r cyhoedd (aelodau lleyg) a bydd yn penderfynu a ddylai AWMSG fwrw ymlaen ag asesiad meddyginiaeth drwyddedig neu feddyginiaeth a ddefnyddir oddi ar y label. Bydd y Panel Craffu yn defnyddio meini prawf wedi'u diffinio ymlaen llaw i benderfynu ar lwybr yr asesiad ar gyfer pob meddyginiaeth. Mae'r llwybrau hyn yn cynnwys: HTA llawn neu asesiad mwy cyfyngedig ar gyfer meddyginiaethau trwyddedig, a phroses asesu Meddyginiaethau Cymru'n Un sefydledig ar gyfer meddyginiaethau a ddefnyddir oddi ar y label. Mae proses asesu meddyginiaethau newydd AWMSG, y llwybrau asesu a'r meini prawf penderfynu wedi'u manylu yn y ddogfen Proses Asesu Meddyginiaethau AWMSG ar gyfer Meddyginiaethau Trwyddedig ac Oddi Ar y Label .

Fel arfer disgwylir i fyrddau iechyd yng Nghymru a NWJCC sicrhau bod meddyginiaeth ar gael i rhagnodi o fewn 60 diwrnod i Lywodraeth Cymru gadarnhau argymhelliad cadarnhaol gan AWMSG, fel yr amlinellir yn y Gronfa Triniaethau Newydd . Ar gyfer meddyginiaethau a ddefnyddir oddi ar y label, disgwylir i fyrddau iechyd a NWJCC ariannu'r feddyginiaeth yn unol ag argymhelliad AWMSG a gadarnhawyd. Mae AWTTC yn cyhoeddi adroddiadau ar statws fformiwlari meddyginiaethau a argymhellir i'w defnyddio o fewn GIG Cymru gan NICE ac AWMSG sydd ar gael o dudalen we adroddiadau statws fformiwlari'r Gronfa Triniaethau Newydd .


Cais Cyllido Cleifion Unigol (IPFR)

Weithiau efallai na fydd bwrdd iechyd yn darparu meddyginiaeth yn rheolaidd. Gall hyn fod oherwydd nad yw'r feddyginiaeth wedi'i thrwyddedu yn y DU i drin cyflwr penodol neu nad yw'r feddyginiaeth yn cael ei hargymell i'w defnyddio'n rheolaidd ar ôl asesiad gan NICE neu AWMSG. Os yw claf a'i glinigwr yn cytuno y byddai meddyginiaeth nad yw ar gael yn rheolaidd o fudd i'r claf, gall ei glinigwr gyflwyno Cais Cyllido Claf Unigol (IPFR) yn gofyn i'r bwrdd iechyd, neu NWJCC, ariannu'r feddyginiaeth. Mae gan bob bwrdd iechyd a NWJCC banel IPFR o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau lleyg a fydd yn cwrdd. i ystyried pob cais a phenderfynu a ddylid ariannu'r feddyginiaeth ar gyfer y claf hwnnw. Mae rhagor o wybodaeth am y broses IPFR ar gael ar y wefan hon yn https://awttc.nhs.wales/ipfr


Penderfyniadau byrddau iechyd unigol

Os yw meddyginiaeth wedi'i heithrio o asesiad gan NICE neu AWMSG, gall byrddau iechyd unigol yng Nghymru ystyried ychwanegu'r feddyginiaeth at eu fformiwlari (y rhestr swyddogol o feddyginiaethau y gellir eu rhagnodi i gleifion yn eu hardal).

Dilynwch AWTTC: