Mae cyflwyniadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn rhan annatod o'n proses asesu. Rydym hefyd gwahodd ceisiadau i ystyried meddyginiaethau ar gyfer asesiad AWMSG. Mae'r adran hon yn cynnwys y wybodaeth a'r ffurflenni sydd eu hangen arnoch i wneud cyflwyniad i ni.
Rydym yn croesawu awgrymiadau gan gydweithwyr GIG Cymru ar gyfer meddyginiaethau i'w hystyried i'w hasesu gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG). Mae'r mathau o feddyginiaethau y gellir eu cyflwyno i'w hystyried yn cynnwys:
Ar gyfer POB cais am feddyginiaeth rhaid bod angen neu fudd clinigol clir i ddarparu gwasanaethau yn GIG Cymru. Efallai y bydd angen ymrwymiad gan glinigwyr sy'n ymarfer neu rwydweithiau clinigol i gasglu a choladu data canlyniadau cleifion hefyd.
Cwblhewch y ffurflen gais am feddyginiaethau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'i dychwelyd i awttc@wales.nhs.uk . Rhoddir rhagor o wybodaeth ar y ffurflen am gynhyrchion sydd y tu allan i gylch gwaith asesiad AWMSG a chategorïau o feddyginiaethau nad ydynt fel arfer yn cael eu hasesu gan AWMSG.
Mae rhagor o wybodaeth am broses asesu AWMSG ar gyfer meddyginiaethau trwyddedig a meddyginiaethau a ddefnyddir oddi ar y label ar gael o wefan AWTTC yn: https://awttc.nhs.wales/AWMSG-medicine-assessment-process
Mae barn arbenigwyr clinigol sy'n gweithio yn GIG Cymru yn rhan hanfodol o broses asesu AWMSG; pan fydd meddyginiaeth yn cael ei hystyried ar gyfer asesiad a hefyd fel rhan o'r asesiad ei hun. Gofynnir i arbenigwyr clinigol lenwi holiadur arbenigwyr clinigol a ffurflen datganiadau buddiant i wneud sylwadau ar opsiynau triniaeth cyfredol ac unrhyw feysydd o angen heb ei ddiwallu; eu gwybodaeth am y feddyginiaeth dan sylw a sut y gallai ffitio i'r llwybr clinigol; unrhyw ganllawiau sy'n dylanwadu ar driniaeth; a faint o gleifion a allai fod yn gymwys i gael triniaeth gyda'r feddyginiaeth.
Bydd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn gwahodd arbenigwyr clinigol i gyflwyno eu barn ar feddyginiaeth sy'n cael ei hasesu. Gall hyn fod drwy gais i gymdeithasau proffesiynol, rhwydweithiau clinigol neu bwyllgorau meddyginiaethau a therapiwteg ar gyfer enwebiadau neu drwy e-bost uniongyrchol at gysylltiadau sefydledig. Os nad ydych wedi derbyn cais gennym ond hoffech gyflwyno eich barn ar un o'r meddyginiaethau yr ydym yn eu hasesu ar hyn o bryd neu sy'n cael ei hystyried ar gyfer asesiad , byddem yn croesawu eich cyfraniad. Llenwch yr holiadur arbenigol clinigol neu cysylltwch â ni fel y gallwn ddweud mwy wrthych.
Os yw claf a'u clinigwr yn cytuno y byddai meddyginiaeth nad yw ar gael yn rheolaidd o fudd i'r claf, gall eu clinigwr gyflwyno Cais Cyllido Claf Unigol (IPFR) gan ofyn i'r bwrdd iechyd, neu Bwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC) , ariannu'r feddyginiaeth. Mae gwybodaeth am sut i wneud cyflwyniad IPFR, naill ai'n electronig neu drwy lawrlwytho'r ffurflen gyflwyno IPFR, ac atebion i rai cwestiynau cyffredin ar gael o'r wefan hon yn https://awttc.nhs.wales/ipfr-submissions