Gallai eich mewnwelediadau wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion yng Nghymru. Rydym am glywed gan unigolion neu grwpiau bach o gleifion a gofalwyr, a sefydliadau cleifion mawr.
Mae'r rhan fwyaf o feddyginiaethau sydd newydd eu trwyddedu yn cael asesiad technoleg iechyd (HTA) gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Yna bydd NICE yn cyhoeddi canllawiau ynghylch a yw'r feddyginiaeth yn cael ei hargymell i'w defnyddio; mae'r canllawiau hyn yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd cleifion sy'n cael eu trin gan GIG Cymru yn ogystal â'r rhai sy'n cael eu trin gan GIG Lloegr yn gallu cael mynediad at feddyginiaeth os yw NICE yn argymell ei defnydd.
Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) hefyd yn asesu meddyginiaethau i'w defnyddio yn GIG Cymru. Fel arfer, meddyginiaethau yw'r rhain nad ydynt wedi'u hasesu gan NICE (neu nad ydynt wedi'u dewis ar gyfer asesiad NICE yn y dyfodol) ond lle mae angen clinigol clir neu fudd arall i GIG Cymru wedi'i nodi. Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn nodi meddyginiaethau trwyddedig ac oddi ar y label y mae'n debygol y bydd angen i AWMSG eu hasesu. Weithiau bydd cwmni fferyllol yn gwneud cyflwyniad ar gyfer asesiad AWMSG ar gyfer un o'u meddyginiaethau neu gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn GIG Cymru ofyn am ystyried meddyginiaeth i'w hasesu os ydynt yn teimlo bod angen iddi fod ar gael yn rheolaidd i gleifion yng Nghymru.
Gwahoddir grwpiau a sefydliadau cleifion hefyd i awgrymu meddyginiaethau i'w hystyried ar gyfer asesiad AWMSG. Anfonwch e-bost atom yn awttc@wales.nhs.uk fel y gallwn ddweud wrthych sut i wneud hyn. Hefyd, edrychwch ar y ceisiadau rydym eisoes wedi'u derbyn a fydd yn mynd at Banel Craffu AWMSG i benderfynu a ddylai asesiad fynd yn ei flaen. Bydd barn cleifion, sefydliadau cleifion a'r cyhoedd hefyd yn cael ei hystyried fel rhan o'u proses gwneud penderfyniadau ac felly os hoffech rannu eich un chi, anfonwch e-bost atom yn awttc@wales.nhs.uk .
Mae cipolwg ar effeithiau gwirioneddol cyflwr iechyd neu feddyginiaeth ar gleifion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr, yn ychwanegu dimensiwn dynol hanfodol at asesiadau AWMSG o feddyginiaethau gan eu bod am glywed lleisiau cleifion yn ogystal â barn gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Gallwch chi ddweud wrthym am:
Mae mewnwelediadau cleifion yn amhrisiadwy i ni pan fydd AWMSG yn penderfynu a ddylid argymell meddyginiaeth i'w defnyddio yn GIG Cymru. Fel rhan o'r broses asesu meddyginiaethau, byddwn yn chwilio'r rhyngrwyd i ddod o hyd i sefydliadau cleifion ac yna'n gofyn i unrhyw rai perthnasol lenwi ein holiadur. Rydym hefyd yn croesawu barn cleifion unigol. Rydym wedi rhestru'r meddyginiaethau rydym yn eu hasesu ar hyn o bryd ar ein tudalen gwaith sydd ar y gweill ac yn annog cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, a sefydliadau cleifion i lenwi holiadur.
Bydd eich ymatebion yn cael eu cynnwys yn y papurau cyfarfod ar gyfer aelodau ein pwyllgor. Yn y cyfarfod, bydd holl safbwyntiau cleifion yn cael eu crynhoi a'u cyflwyno gan aelod lleyg y grŵp. Nid ydym yn rhoi unrhyw un o'r holiaduron a dderbyniwn yn gyhoeddus. Dim ond at aelodau ein grwpiau asesu y byddant yn cael eu hanfon a bydd holiaduron gan gleifion unigol a gofalwyr yn cael eu gwneud yn ddienw. Gall sefydliadau cleifion hefyd fod yn ddienw trwy dicio blwch ar yr holiadur. Gwahoddir cynrychiolwyr o sefydliadau cleifion hefyd i fynychu'r cyfarfodydd hyn i rannu barn eu haelodau yn bersonol.