Neidio i'r prif gynnwy

Gyda phwy rydym yn gweithio

Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau yng Nghymru a’r DU er mwyn ein helpu i gyflawni ein rhaglen waith:

AWMSG

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio, rheoli a phresgripsiynu meddyginiaethau yng Nghymru. Mae AWTTC yn cefnogi AWMSG a’i is-grwpiau.

Mae AWMSG yn:

  • Datblygu cyngor amserol, annibynnol ac awdurdodol ar feddyginiaethau newydd
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â datblygiadau ym maes gofal iechyd yn y dyfodol
  • Cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth presgripsiynu meddyginiaethau i Gymru

Mae rhagor o wybodaeth am AWMSG ar gael ar dudalen Ein pwyllgorau.

Llywodraeth Cymru

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi rhaglen genedlaethol Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd AWMSG yn 2002 i gynghori Llywodraeth Cymru ar feddyginiaethau newydd a’r rhai a ddefnyddir ar hyn o bryd, a presgripsiynu a rheoli meddyginiaethau. Rydym hefyd yn datblygu offer i gynorthwyo i weithredu ac archwilio’r cyngor hwn yn GIG Cymru. Rydym yn dadansoddi data presgripsiynu yn rheolaidd er mwyn meincnodi perfformiad ac ysgogi gwelliant ar draws GIG Cymru.

GIG Cymru

Mae gennym gynrychiolaeth ddaearyddol eang o bob rhan o GIG Cymru, yn cynnwys byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC). Ein nod yw sicrhau tegwch mynediad at feddyginiaethau clinigol effeithiol a chost-effeithiol ar gyfer holl bobl Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi presgripsiynu o’r ansawdd uchaf ar gyfer pobl yng Nghymru drwy asesu meddyginiaethau newydd, datblygu a monitro Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol, datblygu canllawiau ac archwiliadau cenedlaethol, darparu adnoddau addysgol.

Cleifion, sefydliadau cleifion, a'r cyhoedd

Mae un o’n hargymhellion strategaeth allweddol yn canolbwyntio ar ‘bartneriaeth gyda’r cyhoedd’ a gwneud yn siŵr bod cleifion a defnyddwyr gwasanaeth wedi’u cynnwys fel partneriaid cydradd yn ein gwaith a’n penderfyniadau. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r cyhoedd i sicrhau bod cleifion a defnyddwyr gwasanaeth wedi’u cynnwys yn ein gwaith. Er enghraifft, yn 2016 gwnaethom gynnal ein rheithgor Dinasyddion cyntaf er mwyn adrodd ar wytnwch gwrthfiotigau.

Rydym wedi sefydlu Grŵp Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG) sy'n cwrdd bedair gwaith y flwyddyn. Mae PAPIG yn rhan allweddol o'n gwaith ac ymgynghorir â'r grŵp yn rheolaidd ar ddatblygu canllaw.

Y diwydiant fferyllol

Mae AWTTC yn monitro gweithrediad ein proses Asesu Datblygiad Therapiwtig (TDA), ar ein cyfer ni a’r diwydiant fferyllol. Bydd staff AWTTC yn cyfarfod yn rheolaidd gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI), y Grŵp Diwydiant Meddyginiaethau Moesegol (EMIG) a Fferyllydd Arbenigol Caffael Meddyginiaethau Cymru Gyfan, er mwyn caniatáu cyfathrebu dwyffrodd rhwng y diwydiant ac AWTTC. Mae hyn yn cynorthwyo i wella prosesau a methodolegau yng Nghymru ac i rannu profiadau o ymgysylltiad y diwydiant gyda sefydliadau asesu technoleg iechyd eraill. Caiff awgrymiadau sy’n deillio o’r cyfarfodydd hyn eu hystyried gan ein Pwyllgor Llywio.

NICE

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn asesu meddyginiaethau i'w defnyddio yn y GIG yng Nghymru a Lloegr. Mae canllawiau NICE yn berthnasol yng Nghymru: Rhaid i GIG Cymru ddilyn penderfyniadau NICE ynghylch meddyginiaethau a meddyginiaethau sydd newydd eu trwyddedu gydag estyniadau trwydded newydd. Os yw NICE yn argymell meddyginiaeth, rhaid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru allu ei ragnodi ar gyfer cleifion cyn pen 60 diwrnod o argymhelliad NICE.

MHRA

Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn rheoleiddio meddyginiaethau, dyfeisiau meddygol a chydrannau gwaed ar gyfer trallwysiad yn y DU.

Wedi’i chydnabod yn fyd-eang fel awdurdod yn ei maes, mae’r asiantaeth yn chwarae rhan flaenllaw mewn amddiffyn a gwella iechyd y cyhoedd ac mae’n cefnogi arloesedd drwy ymchwil a datblygiad gwyddonol.

Y Llwybr Trwyddedu a Mynediad Arloesol (ILAP)

Nod y Llwybr Trwyddedu a Mynediad Arloesol (ILAP) yw symleiddio mynediad cleifion at feddyginiaethau diogel, ariannol gynaliadwy ac arloesol.

Darperir ILAP mewn partneriaeth gan y canlynol:

  • Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC)
  • Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)
  • Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
  • Consortiwm Meddyginiaethau’r Alban (SMC), rhan o Healthcare Improvement Scotland.

NPIS

Yr Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (NPIS) yw’r gwasanaeth cenedlaethol a gymeradwyir gan Adrannau Iechyd y DU ac a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, sy’n darparu cyngor arbenigol ar bob agwedd ar wenwyno acíwt a chronig.

Y Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol yw’r gwasanaeth y mae staff rheng flaen y GIG yn troi ato am gyngor ar ddiagnosis, triniaeth a gofal cleifion sydd wedi cael – neu a allai fod wedi cael – eu gwenwyno, naill ai drwy ddamwain neu’n fwriadol.